Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ebrill 2013

Prif Weithredwr newydd ar gyfer Maes Awyr Caerdydd

 

Mae Prif Weithredwr newydd wedi cael ei benodi ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar ôl ei gaffael yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth Cymru.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd yr Arglwydd Rowe-Beddoe, Cadeirydd Maes Awyr Caerdydd: “Rwy’n hynod o falch mai Jon Horne fydd Prif Weithredwr newydd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf.

“Bydd ei brofiad helaeth yn y diwydiant meysydd awyr a’i brofiad penodol o redeg Maes Awyr Caerdydd yn ystod cyfnod llwyddiannus iawn yn hanfodol ar gyfer gweddnewid maes awyr cenedlaethol Cymru drwy ddatblygu mwy o wasanaethau awyr a chyrchfannau ar gyfer pobl Cymru.”

Jon Horne, sy’n adnabyddus yn y diwydiant awyr a chymuned fusnes Cymru, oedd Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd rhwng 2001 a 2007, ac mae wedi bod mewn swyddi blaenllaw yn Maes Awyr Dinas Llundain a Maes Awyr Dinas Sheffield. Mae’n dychwelyd i Faes Awyr Caerdydd ar ôl bod yn bartner yn Airport Investment and Enterprise LLP.

Yn ei rôl newydd, bydd Mr Horne yn arwain tîm y maes awyr o ran rheoli’r busnes a bydd yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflawni cynllun busnes y maes awyr.

Wrth wneud sylw ar ei benodiad, dywedodd Mr Horne: “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gymryd cyfrifoldeb unwaith eto dros Faes Awyr Caerdydd mewn cyfnod cyffrous iawn a byddaf yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod hwn yn faes awyr y gall pobl Cymru fod yn falch ohono.

“Rwy’n gwybod na fydd hon yn dasg hawdd, ac na fydd hyn yn digwydd dros nos, ond fydda’ i ddim yn llaesu dwylo o ran wynebu’r heriau sydd o’n blaen. Mae rhai cynlluniau eisoes ar waith a bydd cynlluniau eraill yn cael eu datblygu dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod, ond byddwn ni hefyd yn gwrando ar beth mae pobl ei eisiau gan eu maes awyr, beth mae busnesau ei eisiau ac yn mynd ati i ddeall sut mae modd cyflawni hyn mor llwyddiannus â phosibl.

“Mae potensial amlwg o hyd i Faes Awyr Caerdydd chwarae rôl flaenllaw yn llwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol a hefyd cynnig y gwasanaethau awyr a chyrchfannau a fydd yn denu’n ôl y teithwyr hynny sydd ar hyn o bryd yn hedfan o feysydd awyr y tu allan i Gymru.”

Croesawyd penodiad Mr Horne gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae penodi Jon Horne yn Brif Weithredwr, yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf mai’r Arglwydd Rowe-Beddoe fydd Cadeirydd Bwrdd Maes Awyr Caerdydd, yn golygu bod arweinyddiaeth gref a phrofiadol yn bodoli ar gyfer cyfarwyddwyr a thîm rheoli’r maes awyr.

“Bydd y penodiadau allweddol hyn yn hanfodol o ran helpu i ddenu mwy o bobl i’r derfynfa, denu gwasanaethau a chyrchfannau newydd ar gyfer Caerdydd, a gwella profiad a boddhad y teithwyr busnes a hamdden sy’n defnyddio maes awyr cenedlaethol Cymru.”

Llun: Jon Horne

Rhannu |