Mwy o Newyddion
Dangos i bobl nad ydyn nhw’n wynebu canser ar eu pen eu hunain
MAE Cymorth Canser Macmillan wedi lansio ei hysbyseb deledu Gymraeg gyntaf i ddangos i bobl sy’n byw gyda chanser yng Nghymru nad ydyn nhw’n wynebu canser ar eu pen eu hunain.
Bydd yr hysbyseb Neb yn Unig yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C ddydd Llun. Mae’n dangos person yn cwympo am yn ôl ar ôl cael diagnosis canser ac yn cael ei ddal gan nyrs Macmillan.
Hwn yw’r tro cyntaf i’r elusen gynhyrchu hysbyseb deledu Gymraeg.
Yr actor Ioan Hefin sydd wedi ymddangos yn Con Passionate, Gwaith Cartref a Pentalar ar S4C sydd yn lleisio’r hysbyseb yn Gymraeg.
Nod yr hysbyseb yw tynnu sylw at y cymorth y gall Macmillan ei gynnig i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser yng Nghymru ac annog pobl i gyfrannu at yr elusen.
Lansiodd Macmillan yr hysbyseb ar ôl i’w ymchwil ganfod nad yw 19 y cant o’r bobl sy’n cael diagnosis canser yng Nghymru bob blwyddyn – amcangyfrif o 3,420 o bobl bob blwyddyn – yn cael digon o gymorth gan anwyliaid a ffrindiau wrth iddyn nhw gael triniaeth a dod drosti.
Mae Macmillan yn cynnig cymorth i bobl drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu Canolfannau Gwybodaeth a Chymorth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd.
Mae ganddynt grŵp cymunedol ar-lein, Share Cymraeg, ac maent yn cynhyrchu llawer o daflenni gwybodaeth a chymorth dwyieithog, sydd ar gael ar wefan Macmillan .
Hefyd mae ganddynt 10 weithiwr proffesiynol Macmillan, gan gynnwys nyrs arbenigol canser, dietegydd a chynghorydd, sy’n rhoi cymorth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser drwy gyfrwng y Gymraeg.
Meddai Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol ar ran Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: “Mae Macmillan wedi lansio ei hysbyseb deledu Gymraeg gyntaf ar S4C heddiw i dynnu sylw at y ffaith nad oes rhaid i bobl sy’n byw gyda chanser yng Nghymru wynebu canser ar eu pen eu hunain.
“Mae ein hymchwil yn dangos nad yw 19 y cant o’r bobl sy’n cael diagnosis canser bob blwyddyn yn cael digon o gymorth gan anwyliaid a ffrindiau wrth iddyn nhw gael triniaeth a dod drosti.
“Rydym yn amcangyfrif y bydd nifer y bobl a gaiff ddiagnosis canser yng Nghymru yn codi o 120,000 i 240,000 erbyn 2030, felly mae’n rhaid i ni adael i bobl wybod ein bod ni yma i gynnig cymorth.
“Mae Macmillan eisoes yn cynnig help a chymorth i bobl drwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o’n Canolfannau Gwybodaeth a Chymorth, ar ein cymuned ar-lein Share Cymraeg a thrwy’r llenyddiaeth wybodaeth rydyn ni’n ei chynhyrchu’n ddwyieithog.
“Rydyn ni eisiau sicrhau na fydd neb yn wynebu canser ar ei ben ei hun yn y dyfodol a bod pobl yn gallu cael mynediad i wybodaeth a chefnogaeth yn eu mamiaith lle bo hynny’n bosib.”
Meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C: “Rydyn ni’n falch o gael gweithio gyda Macmillan a fydd nawr yn hysbysebu yn Gymraeg ar S4C am y tro cyntaf.
“O ystyried bod S4C yn cyrraedd dros bum miliwn o bobl y flwyddyn, rwy’n mawr obeithio y bydd yr hysbysebion hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth sylweddol am yr ymgyrch.
“Hefyd, mae’r ffaith fod Macmillan wedi dewis hysbysebu yn Gymraeg yn debygol o sicrhau y bydd yr ymgyrch yn amlwg i’r cyhoedd sy’n gwylio.”
I gael gwybodaeth a chymorth, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 neu ewch i www.macmillan.org.uk.
Tesctiwch PUMP i 70550 i roi £5 i Macmillan heddiw.
Llun: Susan Morris