Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mawrth 2013

Cynydd ‘arswydus’ mewn diweithdra

 Mae Leanne Wood, arwinydd Plaid Cymru, wedi ymateb i'r ffigyrau diweithdra a ryddhawyd yr wythnos yma.

Meddai: “Rwy’n arswydo at y newyddion fod gan Gymru, gyda 8000 yn fwy yn ddi-waith, y codiad uchaf mewn diweithdra o unrhyw wlad neu ranbarth yn y DG.

“Cymru sy’n gyfrifol am y cynnydd cyfan yn niweithdra’r DG. Cymharwch hyn a’r Alban, lle mae diweithdra wedi gostwng.

“Mae hyn yn newyddion ofnadwy, yn enwedig gyda’r DG ar ymyl dirwasgiad triphlyg, ac yr wyf yn cydymdeimlo gyda’r myrdd o deuluoedd sy’n dioddef o ganlyniad i hyn.

“Mae gan Gymru yn awr 50,000 yn fwy o bobl yn ddi-waith na chyn i’r argyfwng ariannol ddechrau, ac yr ydym wedi dioddef y cwymp mwyaf mewn safonau byw a chyflogau gwirioneddol yn y DG.

“Mae llymder yn costio dros £450m o fuddsoddiad i ni yng Nghymru bob blwyddyn, a gellid gwrthdroi lawer o hyn petai gennym fformiwla decach seiliedig ar anghenion, yn lle Fformiwla Barnett hen-ffasiwn.
 

 

Rhannu |