Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mawrth 2013

Cronfa Cymunedau’r Arfordir yn chwilio am geisiadau o Gymru

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio wedi annog busnesau a chymunedau Cymru i wneud cais am gymorth ar gyfer eu cynlluniau adfywio gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir.

O dan Gronfa Cymunedau’r Arfordir, a sefydlwyd gan Drysorlys y DU, mae grantiau ar gael i ariannu prosiectau sy’n hybu rhagolygon economaidd cymunedau arfordirol ledled y  DU.  Caiff y gronfa ar gyfer Cymru ei darparu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chronfa y Loteri Fawr.

Bu cynllun y llynedd yn boblogaidd iawn gyda phum prosiect gwahanol ledled Cymru yn elw o’r gronfa ac mae’r Gweinidog yn obeithiol y bydd y broses o wneud cais eleni yn denu hyd yn oed mwy o geisiadau o safon uchel. 

Meddai’r Gweinidog, “Mae datblygu trefi arfordirol yn flaenoriaeth allweddol o dan ein fframwaith adfywio newydd ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’ ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut y gall y gronfa hon gefnogi ein gweledigaeth newydd a bod o gymorth i hybu datblygiad economaidd ein cymunedau glan môr. 

“Os ydym yn cydweithio â busnesau, elusennau a grwpiau cymunedol, gallwn fodloni pob un o’n hymrwymiadau ym maes adfywio ac mae’r gronfa hon yn cefnogi’r rhai hynny sydd â gwybodaeth leol ac arbenigol i fynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf iddynt hwy. Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu ac i weld beth sydd ar gael yn eich cymuned.” 

Ychwanegodd Jan Reed, aelod o Bwyllgor Cronfa y Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd panel Cronfa Cymunedau Arfordirol Cymru: “Mae Cymunedau Arfordirol yn rhannu naws cryf am le a bydd y cyllid hwn yn rhoi’r hwb sydd ei angen arnynt drwy gefnogi datblygiad eu heconomïau lleol.” 

O dan y Gronfa Cymunedau Arfordirol gwerth £1.45 miliwn, bydd grantiau ar gael i ariannu prosiectau sy’n hybu rhagolygon economaidd pob un o gymunedau arfordirol Cymru.  

Darperir yr arian gan y Gronfa Fawr, cangen gyllido Cronfa’r Loteri Fawr nad yw’n rhan o’r loteri.  Mae’r broses o wneud cais, a’r canllawiau, ar gael i ymgeiswyr posib ar hyn o bryd, gydag unrhyw fynegiadau o ddiddordeb i ddod i law ym mis Ebrill 2013.  

Gweithiodd y Gronfa Fawr gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i ddarparu’r Gronfa hon ar lawr gwlad, a gwnaethpwyd y penderfyniadau o ran dyfarniadau gan fyrddau penodol ar gyfer y gwledydd hynny. 

Mae’n bosib gwneud cais am grantiau dros £50,000 am amrywiaeth o brosiectau a allai fod o fudd i gymunedau arfordirol.  Mae’r cyllid bellach ar gael ar gyfer gwaith cyfalaf yn ogystal â chostau refeniw.  Gallai hyn gynnwys tir ac adeiladau sy’n hanfodol i lwyddiant prosiect.  

Roedd blwyddyn gyntaf y rhaglen yn hynod boblogaidd, gan olygu mwy o geisiadau na nifer y lleoedd oedd ar gael, gyda 107 o geisiadau yng Nghymru ac 13 yn cael eu gwahodd i’r ail gam. 

Llun: Carl Sargeant

Rhannu |