Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mawrth 2013

Y Gweinidog Cyllid yn trafod dyfodol arian yr UE

Bu’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn ymweld â champws trawiadol Nantgarw 3 yn Rhondda Cynon Taf heddiw i drafod buddsoddiad arian yr UE yn y dyfodol yng Nghymru.

Yn ei digwyddiad cyntaf fel Gweinidog â chyfrifoldeb dros Gronfeydd Strwythurol, bu’n annerch cynrychiolwyr fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus – ‘Cymru a’r UE: Partneriaeth ar gyfer Swyddi a Thwf’ – sy’n ceisio barn ar sut i fanteisio i’r eithaf ar arian yr UE.

Yn ystod ei hymweliad, dywedodd bod adeilad Coleg Morgannwg, gyda chefnogaeth gwerth tua £7m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn enghraifft gadarnhaol o’r ffordd y mae arian yr UE yn rhoi cyfleoedd dysgu newydd i filoedd o bobl ifanc mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf.

Dywedodd hefyd bod yr ad-drefnu a ddigwyddodd yr wythnos ddiwethaf, pan drosglwyddwyd cyfrifoldeb dros arian yr UE i’w phortffolio hi yn unol ag argymhelliad Adolygiad Guilford, yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd defnyddio Cronfeydd Strwythurol wrth ochr ffynonellau ariannu eraill, cyhoeddus a phreifat, i sicrhau’r trawsnewid mwyaf posibl yn economi Cymru.

Yn adroddiad diweddar Dr Grahame Guilford – ‘Adolygiad Annibynnol o Drefniadau ar gyfer gweithredu Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014–2020’ –awgrymwyd bod angen Fframwaith Blaenoriaethu Economaidd er mwyn helpu i gynllunio ac arwain y gwaith o ddewis prosiectau mewn meysydd allweddol o’r economi, a hynny er mwyn cyfateb yn well i strategaethau Llywodraeth Cymru ac Ewrop 2020.

Dywedodd: “Rwy’n benderfynol o sicrhau bod unrhyw arian Ewropeaidd yn y dyfodol yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru, a’i phartneriaid, wrth sicrhau swyddi a thwf. Mae hyn yn golygu gweithredu ar draws y llywodraeth, ac fe fyddaf yn arwain y gwaith o gynllunio strategol ar gyfer pob buddsoddiad cyhoeddus ar draws ein hadrannau er mwyn sicrhau’r gwerth gorau am arian a’r budd mwyaf posibl.”

Dywedodd y Gweinidog hefyd, yn sgil y pwysau parhaus ar wariant, ei bod yn bwysicach nag erioed i bartneriaid Cymru gydweithio, ond hefyd i ddatblygu ffyrdd mwy cynaliadwy o fuddsoddi arian yr UE drwy fodelau ariannu gwahanol, gan gynnwys offerynnau peiriannu ariannol, fel rhan o’r gwaith o adeiladu Trysorlys i Gymru.

Dywedodd: “Rwy’n benderfynol o barhau i drafod gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau dyraniad teg o Gronfeydd Strwythurol i Gymru yn y dyfodol. Bydd hefyd yn hanfodol i ni weithio gyda’n partneriaid, ar draws pob sector, i wneud y defnydd gorau o unrhyw arian Ewropeaidd yn y dyfodol drwy gefnogi buddsoddiadau strategol ac arloesol ac ysgogi ffyniant ar draws y rhanbarth.”

Dywedodd y Gweinidog hefyd y byddai cyfleoedd pellach i symleiddio mynediad at y Cronfeydd Strwythurol a rhaglenni ariannu Ewropeaidd eraill, gan gynnwys mynediad at arian cyfatebol cyhoeddus.

Dywedodd: “Ein nod yw integreiddio’r ffrydiau ariannu hynny ac unioni’n prosesau a’n gweithdrefnau er mwyn i sefydliadau a busnesau fanteisio i’r eithaf ar y buddiannau posibl i Gymru."

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus yw 23 Ebrill 2013. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.wefo.wales.gov.uk

Llun: Jane Hutt

 

Rhannu |