Mwy o Newyddion
O'r fferm i'r fforc
Roedd peth o’r cynnyrch gorau o Ganolbarth Cymru i’w weld mewn digwyddiad bwyd ar gyfer sectorau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth fwyd y rhanbarth yr wythnos hon.
Profodd y cynrychiolwyr gig o fferm Coleg Powys, llysiau gan Offa Farm a Chwm Harry i lawr y ffordd, a chynhwysion gan gynhyrchwyr lleol, wedi eu coginio gan fyfyrwyr coginio ac wedi eu gweini i westai, bwytai a siopau lleol! Cyn lleied â phosibl o filltiroedd bwyd…a'r cydweithrediad a’r mwynhad mwyaf posibl!
Cynhaliwyd y digwyddiad O'r Fferm i’r Fforc, a drefnwyd gan Goleg Powys a Sôn am Fwyd Canolbarth Cymru, yng Ngholeg Powys, Y Drenewydd ar y dydd Mawrth. Daeth y digwyddiad â mwy na 50 o fwytai, gwestai, siopau ac atyniadau twristiaeth lleol at ei gilydd i gwrdd â chynhyrchwyr bwyd a diod o’r Canolbarth. Roedd y gyflwynwraig tywydd, Siân Lloyd, sy'n frwd o blaid bwyd lleol, hefyd yno.
Fel y dywedodd Helen Jones, Cydgysylltydd Prosiect o Sôn am Fwyd Canolbarth Cymru: “Mae’r digwyddiad O’r Fferm i'r Fforc yn ffordd wych o ddod â chynhyrchwyr a’r sectorau manwerthu a lletygarwch lleol at ei gilydd, i ddysgu mwy am yr amrywiaeth o gynnyrch lleol sydd yn y rhanbarth, ac i weld sut allwn wella proffil y rhanbarth fel cyrchfan fwyd.”
Roedd y cynhyrchwyr lleol gyda stondinau yno’n cynnwys Pantri Swswen, Caersws; Hilltop Honey o’r Drenewydd; Monty's Brewery, Trefaldwyn; Ifor's Welsh Wagyu, Abermiwl; Neuadd Fach Baconry, Llandinam; Cwm Harry Food Company o’r Drenewydd a Llysiau Offa Farm o Drefaldwyn. Cafodd bobl hefyd gyfle i flasu sudd afal pur o Aberriw gan ddefnyddio cynhwysion lleol.
Cafwyd amryw o sgyrsiau ymarferol a difyr. Siaradodd Deiniol ap Dafydd o Blas ar Fwyd am y datblygiadau diweddaraf gyda chynhyrchion bwyd o Gymru a dosbarthwyd samplau o gynnyrch lleol fel gwin o Winllan Penarth, sudd afal o Aberriw ac ooomeringues i'r cynrychiolwyr gael eu mwynhau. Pwysleisiodd Deiniol hefyd ba mor bwysig yw mwynhau'r hyn a wnewch yn eich busnes; a bod cymryd rhan yn y sin fwyd leol yn helpu i greu cysylltiadau ag eraill, gan wneud busnesau’n gryfach a mwy gwydn.
Siaradodd Pam Honeyman o Monty’s Brewery yn Nhrefaldwyn wrth fusnesau am gydweithredu â busnesau lleol eraill i greu economi bwyd lleol gref.
Cynhaliwyd sesiwn ‘Olrhain Ar Waith’ lle aeth cynrychiolwyr i Fferm Coleg Powys i ddysgu am yr ethos o’r fferm i’r fforc, ac i weld sut i farchnata a choginio cig lleol. Roedd hyn hefyd yn cynnwys sgwrs gan Dewi Hughes o Hybu Cig Cymru a siaradodd am olrhain cig o Gymru.
Roedd dosbarthiadau meistr eraill yn cynnwys gwneud bara cartref; dangosiadau coginio gan gynhyrchwyr lleol a myfyrwyr o Goleg Powys, a chyflwyniad ar gyfryngau cymdeithasol gan In-Synch ar sut i farchnata eich busnes yn effeithiol.
Mwynhaodd y cynrychiolwyr ginio o fwyd a diod lleol a gafodd ei baratoi, ei goginio a'i weini gyda gwên gan y myfyrwyr coginio o Goleg Powys.
Meddai Chris Yapp, Darlithydd mewn Bwyd a Diod ym Mwyty’r Themâu yng Ngholeg Powys: “Am ddigwyddiad hyfryd, mae defnyddio bwyd lleol yn agos iawn at ein calon yma yng Ngholeg Powys. Mae defnyddio’ch cig eidion a’ch cig oen eich hun yn anghyffredin iawn, hyd y gwn i ni yw’r unig goleg Addysg Bellach yng Nghymru sy’n gwneud hyn. Mae ein dysgwyr Llwybrau at Brentisiaeth wedi bod yn rhan o’r broses o’r dechrau, o’r fferm i’r fforc. Mae hyn hefyd wedi rhoi cyfle i fy nysgwyr i gysylltu â dysgwyr ar y llwybrau amaeth, a hoffwn ddiolch i’r darlithwyr fferm ac i’r myfyrwyr am eu holl waith caled. Mae gennym gynlluniau’n awr i ddechrau bwtsiera’n porc ein hunain felly cadwch lygad allan i weld sut fath o ddigwyddiad a drefnwn nesaf.”
Felly'r tro nesaf y byddwch allan yn cael pryd o fwyd yn yr ardal, cymrwch olwg ar y fwydlen neu cofiwch ofyn pa gynhyrchwyr lleol sydd ar y fwydlen!