Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mawrth 2013

Annog Awdurdodau Lleol i hybu’r Gymraeg yn y gymuned

Mae Awdurdodau Lleol wedi’u hannog i wneud mwy i hybu a chefnogi’r defnydd sy’n cael ei wneud o’r Gymraeg yn y gymuned. 

Mae’r Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Leighton Andrews, wedi ysgrifennu at Arweinwyr Awdurdodau Lleol yn eu hannog i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’u cymunedau i sicrhau bod y Gymraeg yn dal i ffynnu.

Mae’r llythyr yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad diwethaf pan welwyd pa mor fregus yw’r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru ac yn pwysleisio hefyd fod dyfodol yr iaith yn nwylo plant a phobl ifanc Cymru.

Dywedodd Leighton Andrews:  “Mae gan bob un ohonon ni sydd â diddordeb yn nyfodol y Gymraeg rôl i’w chwarae yn sicrhau ei dyfodol. Mae gan yr Awdurdodau Lleol rôl arbennig o bwysig i’w chwarae yn hyn o beth. Rydw i felly yn annog yr Awdurdodau Lleol i barhau i gefnogi darparu gwasanaethau Cymraeg a hybu’r iaith yn ehangach.

“Rydw i’n awyddus i weld y buddsoddiad sy’n cael ei wneud gan Awdurdodau Lleol mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog, sy’n helpu i greu siaradwyr Cymraeg y dyfodol, yn cael ei ymestyn drwy ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau hamdden Cymraeg i’r un plant a phobl ifanc. Drwy wneud hyn bydd eu profiad o ddefnyddio’r Gymraeg yn cael ei gysylltu â mwynhau gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.

“Dwi hefyd am weld mwy o wasanaethau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnig yn Gymraeg yn rhan o’r broses o wella gwasanaethau Cymraeg yn gyffredinol, ymrwymiad sy’n golygu rhoi sylw penodol i wasanaethau Cymraeg wrth wneud penderfyniadau cyllido. Dwi hefyd am weld mwy o gyfleoedd yn cael eu rhoi i bobl – yn arbennig pobl ifanc sy’n gadael addysg cyfrwng Cymraeg – ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gwaith ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys y sector cyhoeddus.

“Er fy mod yn deall ein bod yn gweithio o dan amgylchiadau anodd ar hyn o bryd, gyda’n cyllidebau yn cael eu gwasgu, ni allwn roi o’r neilltu'r dasg o hwyluso a hybu’r defnydd o’r Gymraeg.”

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth ar gyfer y Gymraeg, Iaith Fyw: Iaith Byw ar 1 Mawrth 2012 pryd y nodwyd chwe maes i’w datblygu. Roedd y meysydd hynny yn cynnwys hwyluso a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob maes o fywyd, gan roi sylw penodol i’r teulu; rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol; rhoi cymorth tuag at ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned; defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ym maes technoleg gwybodaeth gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

Mae hefyd yn dilyn rhoi sêl swyddogol Cymru ar Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 gan y Prif Weinidog yn gynharach yn y mis. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol lunio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlinellu dyheadau a bwriadau’r awdurdodau lleol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog. Bydd y Ddeddf yn ei gwneud hi’n orfodol hefyd i awdurdodau lleol, o dan amgylchiadau arbennig, fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

Llun: Leighton Andrews

Rhannu |