Mwy o Newyddion
Galw am Sefydliad /Academi Heddwch i Gymru
Bydd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn anerch cynhadledd yn Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 23, ynglŷn â sefydlu Academi neu Sefydliad Heddwch yng Nghymru. Cafodd y syniad o gael Sefydliad Heddwch Cymreig ei gynnig am y tro cyntaf gan Ms Evans yn 2008, yn dilyn cyfarfod gyda Llywydd Sefydliad Heddwch Fflandrys.
Mae gan Cymru a Fflandrys gysylltiadau cryf fydd yn cael eu cofio’n arbennig y flwyddyn nesaf ar ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Wrth siarad cyn y gynhadledd, dywedodd Ms Evans: “Bum yn ymchwilio i’r syniad o gael Sefydliad Heddwch ers nifer o flynyddoedd. Mae gan y rhan fwyaf o genhedloedd y byd sefydliad o’r math hwn sy’n gallu cynnal ymchwil a chynghori’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ac rwy’n credu bod angen un arnom yng Nghymru.
"Rwyf wedi cwrdd â chynrychiolwyr rhai o’r sefydliadau hyn er mwyn cymryd golwg ar yr hyn a allai fod yn bosibl. Bydd y gynhadledd yn Aberystwyth yn gyfle i drafod y gwahanol opsiynau ac i baratoi’r tire r mwyn i ni sefydlu un ein hunain.
"Mae nifer o wahanol fudiadau yn cymryd rhan yn y trafodaethau. Cafodd ei drafod hefyd yn y Cynulliad Cenedlaethol lle y cyflwynwyd deiseb i’r pwyllgor.
"Nid absenoldeb rhyfel yw ystyr heddwch yn unig. Mae’n golygu cyfiawnder, cynaladwyedd a bod heb drais. Bydd y Sefydliad Heddwch yn edrych ar holl agweddau cymdeithas ac yn cynghori ar sut gall polisiau gael eu mabwysiadu er mwyn hyrwyddo hwn.
"Caiff gwaith y Cynulliad Cenedlaethol ei arwain eisoes gan ei ymrwymiad tuag at ddatblygu cynaliadwy. Credaf y byddai academi sydd yn ymchwilio i effeithiau’r penderfyniadau a wneir gan lywodraeth a’r camau posibil gall lywodraethau eu cymryd, yn ogystal â chwarae rôl mewn addysg, o fudd anferth i Gymru.
Cyfeiriodd Ms Evans hefyd at Ryfel Irac: “Dechreuodd goresgyniad anghyfreithlon Irac ddeng mlynedd yn ôl i’r wythnos hon. Dyma nodyn atgoffa amserol iawn o drasiedi rhyfel a’r angen i gymryd gwir gamau pendant i’w rwystro.”
Llun: Jill Evans