Mwy o Newyddion
Dathlu amrywiaeth ieithyddol
Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi cyfuno i lansio cystadleuaeth sy’n dathlu amrywiaeth ieithyddol a doniau pobl ifanc yng Nghymru.
Bydd y gystadleuaeth farddoni amlieithog hon, o’r enw Mamiaith Ail Iaith 2013, yn rhoi cyfle i bobl ifanc ledled y wlad i ddathlu ieithoedd eu cartrefi, ynghyd â bod yn greadigol mewn ieithoedd eraill maen nhw’n eu dysgu yn yr ysgol.
Crëwyd y gystadleuaeth hon gan Brifysgol Fetropolitan Manceinion, a chafodd ei pheilota llynedd mewn ysgolion ym Manceinion. Roedd yn gymaint o lwyddiant fel bod Bardd y Frenhines ym Mhrydain, Carol Ann Duffy, wedi mabwysiadu’r prosiect hwn fel Prosiect Addysg Llawryfol yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n annog pob unigolyn ifanc ledled y Deyrnas Unedig i gymryd rhan. Yng Nghymru, rydym yn ffodus iawn o gael cefnogaeth gan ein Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke, a’r bardd amlieithog Mererid Hopwood.
Yn agored i bobl ifanc rhwng 9 a 18 oed, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal mewn dwy ran. Bydd Mamiaith yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr ddewis darn ysgrifenedig yn iaith eu cartref (nid Saesneg na Chymraeg) sy’n bwysig iddyn nhw. Yna, bydd y cynnig yn cael ei feirniadu ar sail y naratif ysgrifenedig sy’n ategu’r darn, a ddylai egluro pam ei fod yn ddarn pwysig iddyn nhw a’u diwylliant. Bydd Ail Iaith yn rhoi cyfle i ymgeiswyr fod yn greadigol gydag iaith sy’n cael ei dysgu (Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Eidaleg).
Dros y misoedd nesaf, bydd pobl ifanc ledled y wlad yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ysgrifennu creadigol, a fydd yn cael eu cyflwyno gan gymdeithion Llenyddiaeth Cymru a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Bydd y gystadleuaeth hon hefyd yn cysylltu â phrosiect Book Kernel Prifysgol Caerdydd, sy’n cael ei arwain gan Ysgol Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth. Mae’r prosiect hwn yn rhoi sylw penodol i gyfieithu barddoniaeth a chreu llyfrau byw mewn digwyddiadau cyfieithu, fel bod gan gyfranogwyr gofnod ar unwaith o’r digwyddiad.
Bydd gwaith enillwyr y gystadleuaeth yn cael ei arddangos yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf, a thrwy’r prosiect Book Kernel, y gobaith yw y bydd llyfr o’r gwaith buddugol yn cael ei gyhoeddi. Bydd pob enillydd hefyd yn cael cyfle i gynrychioli Cymru a’r Deyrnas Unedig mewn Digwyddiad Dathlu Cenedlaethol ym Manceinion yn yr hydref.