Mwy o Newyddion
Sue Jeffries yn cymryd yr awenau gyda Cyfle
Yn dilyn 23 o flynyddoedd o wasanaeth gyda Cyfle, a’r 7 diweddaraf o’r rheiny yn arwain Cyfle fel Prif Weithredwr, mae Iona Williams wedi penderfynu ymddeol o’r cwmni ar ddiwedd mis Mawrth 2013, ac mae wrth ei bodd yn croesawu Sue Jeffries fel Prif Weithredwr newydd y cwmni.
Bu Sue yn gweithio fel rhan o dîm Cyfle fel Ymgynghorydd Datblygu Strategaeth ers mis Ebrill 2012, a bydd yn gafael yn yr awenau fel Prif Weithredwr ar y 1af o Ebrill 2013. Bydd hi hefyd yn wyneb cyfarwydd i nifer o gyn-hyfforddeion Cyfle, fydd wedi cael eu hyfforddi gan Sue ar nifer o gynlluniau hyfforddi’r diwydiant amrywiol dros y blynyddoedd.
Mae Sue yn dechrau yn ei swydd mewn cyfnod cyffrous i Cyfle, sydd yn datblygu cynlluniau hyfforddi newydd a chyffrous yn barhaus ar gyfer y diwydiannau cyfryngau creadigol, yn ogystal a gweithio mewn partneriaethau newydd yn darparu hyfforddiant ar lefel gymunedol led-led Cymru.
Dechreuodd Sue ei bywyd gwaith fel Cynorthwy-ydd Personol dan Hyfforddiant gyda ITV, a gweithiodd ei ffordd drwy’r graddau cynhyrchu cyn mynd i weithio’n llawrydd yn 1989. Mae wedi gweithio fel cynhyrchydd a cyfarwyddwr ffilm a theledu ers dros un mlynedd ar bymtheg, yn bennaf ym meysydd drama, plant ac adloniant ysgafn.
Cafodd hefyd hyfforddiant fel Ymgynghorydd Gyrfaoedd gan Skillset Creadigol, ac mae’n Asesydd Cymwysedig. Mae Sue wedi gweithio fel hyfforddwr ac ymgynghorydd i’r diwydiant, gan ddarparu sesiynau hyfforddi a gweithdai ar gyfer asiantaethau megis BECTU, ITV â’r BBC, yn ogystal a Cyfle.
Dywedodd Gareth Jones, Cadeirydd Cyfle: “Rydym wrth ein boddau bod Sue wedi penderfynu derbyn swydd y Prif Weithredwr gyda ni yn Cyfle. Bydd ei phrofiad eang o’r diwydiant, a gwybodaeth o hyfforddiant yn ogystal a cynhyrchu yn amrhisiadwy i Cyfle ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at ei chael yn arwain y tîm i ddyfodol llwyddiannus a chynhyrchiol.”
Dywedodd Sue Jeffries: “Mae hi’n fraint ac anrhydedd i mi ddilyn yn ôl troed Iona i arwain cwmni sydd wedi gwneud gymaint i gefnogi’r diwydiannau creadigol dros y blynyddoedd. Rydw i’n edrych ymlaen at barhau’r gwaith o adeiladu Cyfle fel cwmni a’i symud ymlaen i’r dyfodol gyda’r staff talentog, egniol ac ymroddgar sydd yn gweithio yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Caernarfon.”
Llun: Sue Jeffries