Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mawrth 2013

Faint o gymorth sydd ar gael i roi hwb i'r Syr Terry Matthews nesa

Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio ymchwiliad newydd i'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc.

Mae'r Pwyllgor wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y mater ac mae'n gwahodd sylwadau gan bobl a sefydliadau sydd â diddordeb ynddo.

Dyma rai o'r cwestiynau y mae'r Pwyllgor yn eu gofyn;

·         Beth yw profiadau entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru?

·         Faint o adnoddau ac arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi tuag at hyrwyddo entrepreneuriaeth ieuenctid? A yw'n ddigonol?

·         Pa gyfleoedd a gaiff eu cyflwyno drwy ehangu entrepreneuriaeth ieuenctid fel modd o fynd i'r afael â diweithdra ac anweithgarwch ymysg pobl ifanc?

·         Pa enghreifftiau o arfer da ym maes polisi entrepreneuriaeth ieuenctid sydd i'w cael yng Nghymru, yn ehangach yn y DU, ac yn rhyngwladol?

"Bydd yr ymchwiliad hwn yn ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo entrepreneuriaid ifanc a pha gamau y gellir eu cymryd i wella'r cymorth hwnnw," meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes.

 Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i pwyllgor.menter@cymru.gov.uk.

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai'ch tystiolaeth ein cyrraedd erbyn 1 Mai 2013. Mae'n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

 

Rhannu |