Mwy o Newyddion
Estyn Cynllun Cymorth Band Eang
Mae’r Gweinidog Busnes Edwina Hart wedi cyhoeddi ei bod yn estyn y Cynllun Cymorth Band Eang am chwe mis arall.
Ers ei ddechrau yn 2010, mae’r cynllun wedi helpu 4,700 eiddo mewn 31 o gymunedau mewn ardaloedd heb fand eang ac ardaloedd â band eang araf ledled Cymru. Y bwriad oedd cau’r cynllun ddiwedd y mis ond mae’r Gweinidog wedi penderfynu ei estyn am chwe mis arall oherwydd y galw aruthrol amdano, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.
Meddai Mrs Hart: “Rwy’n hynod falch ein bod wedi cael estyn y cynllun llwyddiannus hwn tan ddiwedd mis Medi 2013 er mwyn i ragor o gymunedau ym mhob rhan o’r wlad allu manteisio arno.
“Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar raglen Superfast Cymru a fydd, pan gaiff ei chyflwyno’n fasnachol, yn dod â band eang cyflym iawn o fewn cyrraedd 96% o eiddo Cymru. Mae estyn y Cynllun Cymorth Band Eang yn golygu y gallwn barhau i helpu pobl sydd ag angen band eang arnynt ar fyrder.
“Bydd yr estyniad hwn a Superfast Cymru gyda’i gilydd yn sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddatrys problemau diffyg cysylltiad mewn ardaloedd heb fand eang ac ardaloedd â band eang araf.
Bydd rhaglen Superfast Cymru’n sicrhau hefyd bod cysylltiad teg a chyfartal at fand eang y genhedlaeth nesaf yn ein cymunedau cefn gwlad.”
LLUN: Edwina Hart