Mwy o Newyddion
Peidiwch torri ariannu gan yr UE a fuddsoddir mewn swyddi a thwf
Derbyniwyd cynnig gan Senedd Ewrop (Dydd Mercher 13/3) yn gwrthwynebu safbwynt y 27 llywodraeth UE ynglŷn â dyfodol cyllideb yr UE. Mae Jill Evans ASE yn gyson wedi gwrthwynebu torri’r gyllideb, sydd yn creu swyddi ac yn helpu twf yn yr economi Gymreig. Croesawodd bleidlais y Senedd ac ymrwymodd i wrthwynebu unrhyw gyllideb fyddai’n cynnwys toriadau yn yr ariannu hanfodol a ddaw i Gymru.
Cododd Ms Evans fater ariannu gan yr UE i Gymru, yn ystod dadl yn Senedd Ewrop Ddydd Mercher. Cafodd y ddadl ei gynnal mewn paratoad ar gyfer uwch-gynhadledd aelod wladwriaethau’r UE ym Mrwsel fyd yn trafod cyllideb yr UE.
Mae Cymru yn fuddiolwr net o’i haelodaeth o’r UE. Cyhoeddodd Ms Evans ymchwil ar ddiwedd llynedd oedd yn dangos bod Cymru yn cael tua deugain punt y pen bob blwyddyn yn fwy na’r hyn yr ydym yn ei dalu mewn i gyllideb yr UE. Mae’n debygol bod Cymru’n cael mwy na hynny mewn gwirionedd a cheir pryderon y gallem golli hyd at un biliwn o bunnoedd o gymorth gan yr UE pe bai’r gyllideb gyffredinol yn cael ei dorri, fel y dymuna pleidiau’r DG.
Wrth siarad yn y sesiwn lawn yn Strasbwrg, dywedodd Ms Evans: "Mae llywodraeth y DG, gyda chefnogaeth yr wrthblaid Lafur wedi bod yn galw am fwy o doriadau yng nghyllid Ewrop - toriadau fyddai’n cael effaith drychinebus ar economi Cymru. Fe ddylwn i ddweud fod yna rwyg ymhlith y bliad Lafr ynglŷn â’r mater yma. Yng Nghymru, lle mae Llafur wedi ffurfio’r Llywodraeth, maen nhw’n gwrthwynebu’r toriadau.
"Y sefyllfa nawr yw bod Cymru yn fuddiolwr net o ariannu gan yr UE. Drwy fod yn aelod o’r UE, rydym wedi cael ein helpu i adeiladu ein heconomi ac yn debyg i wledydd eraill, mae angen y cymorth hwnnw a chydlyniad arnom i’n galluogi n ii oresgyn yr argyfwng a rhoi gwell dyfodol i’n pobl ifanc.
"Dyna pam rwy’n gwrthwynebu’r toriadau i’r gyllideb hirdymor ac yn cefnogi buddsoddiad mewn swyddi a chymunedau cynaliadwy ar yr union adeg pan fod ei angen fwyaf ar Ewrop gyfan."