Mwy o Newyddion
Edrych at y dyfodol wedi blwyddyn gyntaf ei harweinyddiaeth
Mae Leanne Wood o Blaid Cymru wedi amlinellu pum maes allweddol ar gyfer polisi economaidd mewn araith bwysig i nodi ei blwyddyn gyntaf fel arweinydd.
Dywedodd Ms Wood wrth y gynulleidfa yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Gwener y bydd Plaid Cymru yn datblygu llwybr economaidd gwirioneddol wahanol i ganiatáu i Gymru fod yn “llwyddiannus” ac i “ffynnu.”
Mae Comisiwn Economaidd Plaid Cymru, a sefydlwyd gan Ms Wood o fewn dyddiau iddi ddod yn arweinydd y Blaid, wedi nodi pum maes allweddol ar gyfer ymyriad strategol yn economi Cymru.
Dyma hwy:
- ‘Cysylltu’r Genedl’ fydd yn canolbwyntio ar wella cludiant cyhoeddus, gyda’r Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd rheolaeth lawn o fasnachfraint rheilffyrdd Cymru gyfan, gwella rhwydwaith y ffyrdd, defnyddio ein porthladdoedd a chyflwyno band eang cyflym iawn a mynediad at 4G i bawb.
- ‘Ail-leoleiddio’r lleol’ fydd yn gwella lefelau caffael cyhoeddus Cymreig i gloi ein harian i mewn i Gymru a chreu swyddi, gan helpu i gefnogi busnesau lleol.
- ‘Asiantaeth ynni genedlaethol i Gymru’ fyddai’n defnyddio ein hadnoddau er lles y bobl yma, gan fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu prosiectau newydd.
- System ariannol Gymreig fydd yn cynnwys creu Banc Cymru mewn dwylo cyhoeddus i fuddsoddi mewn busnesau bach.
- Ail-gydbwyso Prydain fydd yn cynnwys datganoli’r system lles a chynyddu cyfran Cymru o gyllidebau caffael y DG i wrthweithio’r anghydbwysedd hanesyddol rhwng cenhedloedd Prydain.
Dywedodd Ms Wood:“Pan gefais i f’ethol yn arweinydd fy mhlaid fe wnes hi’n glir fy mod eisiau fy marnu ar un pwnc ac un pwnc yn unig - yr economi. Yr economi a chreu swyddi fydd fy nghanolbwynt, ac felly y bydd hi.
“Creu swyddi fydd ein prif flaenoriaeth yn y rhaglen a rown ar waith yn dilyn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.
“Mae pobl yma yn haeddu llywodraeth a wnaiff bopeth yn ei grym i alluogi’n cenedl i fod mor llwyddiannus ac mor ffyniannus ag y gwn y gall.”
Ychwanegodd: “Mae Plaid Cymru yn anghytuno’n sylfaenol gyda’r camau a gymerir gan Lywodraeth y DG.
“Ymhell o wella pethau, mae polisïau Llywodraeth y DG yn gwneud problemau economi Cymru yn waeth.
“Mae Cynllun A sy’n creu llymder yn drychinebus i Gymru. Wnaeth pobl Cymru ddim pleidleisio drosto. Mae’r rhan fwyaf o bobl yma yn cefnogi pleidiau sy’n ei wrthod, neu o leiaf yn dweud eu bod ….ond dyw gwrthod llymder ddim yn ddigon.
“Rwy’n gwrthod y wireb nad oes dewis arall. I Gymru, rhaid cael dewis arall.
“Ac y mae Plaid Cymru yn llunio rhaglen fydd yn cynnig y dewis hwnnw.”
Wrth fyfyrio am ei 12 mis cyntaf fel arweinydd Plaid Cymru, amlygodd Ms Wood lwyddiannau ei phlaid yn y Cynulliad Cenedlaethol, sydd yn cynnwys y fargen ar y gyllideb a wnaed gyda Llywodraeth Cymru fydd yn gweld creu bron i 6,000 o lefydd i brentisiaid dros ddwy flynedd a £10 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i barc gwyddoniaeth yn y gogledd-ddwyrain.
Amlygodd hefyd rôl allweddol ei phlaid yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi eu penderfyniad i beidio talu am y diffyg mewn budd-dal tai treth cyngor.
“Mae mor siomedig gweld Llywodraeth Lafur Cymru ddifflach yn methu sefyll dros y bobl maent yn honni eu cynrychioli,” meddai.
“Dyna pam fy mod i mor falch, yn ystod fy mlwyddyn gyntaf fel arweinydd i y gall Plaid Cymru amlygu bargen lwyddiannus a drawyd ar y gyllideb fydd yn gweld miloedd o lefydd i brentisiaid yn cael eu creu ledled Cymru, fydd yn helpu nid yn unig ein pobl ifanc ond hefyd ein busnesau bach.
“Fe wnaethom hefyd drafod £10m o fuddsoddiad cyfalaf i greu Parc Gwyddoniaeth yn y gogledd-orllewin fydd yn creu swyddi yn y tymor byr ac yn rhoi i’n pobl ifanc y wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen yn fawr arnynt ar gyfer y dyfodol.
“Ymgyrchodd Plaid Cymru yn galed i bwyso ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi eu cynllun trychinebus o basio toriadau mewn budd-daliadau tai ymlaen at rai o’r bobl dlotaf yn ein cymunedau.”
Ychwanegodd: “All Cymru well ddim aros. Mae economeg a gwleidyddiaeht yn mynd ynghyd.
“Allwn ni ond cael yr economeg yn iawn os cawn y wleidyddiaeth yn iawn, a dyna pam fy mod yn benderfynol mai llywodraeth Plaid Cymru fydd llywodraeth nesaf Cymru.”