Mwy o Newyddion
Apêl i berchnogion cŵn yn Eryri
Gofynnir i berchnogion cŵn gymryd gofal ychwanegol wrth iddynt gerdded ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn ystod yr wythnosau nesaf.
A hithau’n dymor y gwanwyn ac yn gyfnod wyna, mae swyddogion y Parc Cenedlaethol yn gofyn i berchnogion cŵn fod hyd yn oed yn fwy ystyriol a gofalus o amgylch anifeiliaid ffarm.
Ar ran Awdurdod y Parc, dywedodd Mair Huws, Pennaeth y Gwasanaeth Warden a Mynediad: “Fel arfer gofynnwn i berchnogion i gadw’u cŵn o dan reolaeth agos, ond yr amser hon o’r flwyddyn, gofynnwn i berchnogion cŵn gadw’u hanifeiliaid ar dennyn er mwyn lleihau’r risg o aflonyddu ar anifeiliaid ffarm.
"Yn ôl y gyfraith, rhwng Mawrth 1af a Gorffennaf 31ain, rhaid i chi gadw'ch ci ar dennyn byr pan fydd anifeiliaid fferm o fewn y cyffiniau os ydych yng nghefn gwlad agored neu ar dir comin, ac o dan reolaeth agos yn ystod cyfnodau eraill.
"Mae’r Cod Cefn Gwlad yn rhoi cyngor i chi am reoli cŵn yng nghefn gwlad pan fyddwch chi'n agos at anifeiliaid fferm ac mae’n Wardeiniaid ni’n barod iawn i roi cyngor i unrhyw un sy'n poeni am fynd i ardal lle mae anifieilaid ffarm i’w cael.”
Ychwanegodd Rhys Owen, Pennaeth Gwasanaeth Cadwraeth ac Amaeth yr Awdurdod: “Yn anffodus, mae digwyddiadau am gŵn yn erlid anifeiliaid yn parhau a gall hyn achosi niwed hir dymor difrifol i ddefaid ac wyn, ac mewn rhai achosion, eu marwolaeth. Mae hyn yn ei dro yn golygu colledion ariannol mawr i’r gymuned amaethyddol.”