Mwy o Newyddion
Tîm rygbi Cymru’n blasu cig Cymreig Bodnant
Bydd cig oen a chyw iâr Cymreig, wedi ei gyflenwi gan Fwyd Cymru Bodnant, ar y fwydlen wrth i dîm rygbi Cymru o dan 20 ymrafael â thîm rygbi Lloegr yn Stadiwm Eirias, Bae Colwyn, Conwy heno.
Bydd Bwyd Cymru Bodnant yn cyflenwi chwaraewyr, staff a gwahoddedigion Undeb Rygbi Cymru gyda chyw iâr Cymreig blasus a chig oen Cymreig wedi ei gynhyrchu’n lleol, wrthi iddynt giniawa wedi’r gêm derfynol yn Nhwrnamaint dan 20 y Chwe Gwlad 2013 a gaiff ei gwylio gan dros 6,000 o bobl yn sir Conwy.
Yn ôl Cigydd Bwyd Cymru Bodnant, Ian Miles: “Rydym wrth ein boddau o gael y cyfle i gyflenwi cig Cymreig i chwaraewyr o dan 20 tîm Cymru, eu staff a gwahoddedigion ar yr achlysur arbennig yma’n Stadiwm Eirias.
“Mae gweini cyw iâr fresh Cymreig a chig oen Cymreig wedi eu magu ar laswellt ar dir fferm yma yng Nghonwy i sêr rygbi Cymru’r dyfodol, yn deimlad arbennig. Mae’r staff yn Fwyd Cymru Bodnant yn falch iawn. Bydd y tîm llwyddiannus yma’n gweld nad oes curo ar ansawdd na blas cig Cymreig sydd wedi ei gynhyrchu’n lleol.”
Dyma’r tro cyntaf i Fwyd Cymru Bodnant, y ganolfan fwyd arbenigol £6.5miliwn yn Nhal-y-cafn, Conwy gyflenwi cig i’r tîm arlwyo yn Stadiwm Eirias, Bae Colwyn. Rheolir y Stadiwm gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae mwy o ddigwyddiadau i ddod yn Eirias, gan gynnwys priodas ym mis Mai, a chig eidion Cymreig gan Bodnant fydd ar y fwydlen bryd hynny.
Mae Bwyd Cymru Bodnant yn ymfalchïo yn ansawdd ac yn eu proses o olrhain cig lleol, ac mae’r Cigydd yng ngofal dewis a dethol ei gynhyrchwyr da byw o fuarth ffermydd ledled Cymru.
Yn ôl Cathryn Evans, rheolwr arlwyo Eirias: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cynhyrchwyr lleol Cymreig gan nad oed curo ar ansawdd y cynnyrch sy’n cyrraedd y gegin. Yn ogystal, rydym yn awyddus i hyrwyddo olreinrwydd y cynhwysion a dilyn yr egwyddor o’r ‘fferm i’r fforch’.
“Byddwn ni’n gweini ar gyfer bron i 300 o bobl yma’n Eirias heno, gan gynnig cawl o gig oen Cymreig a chyri cyw iâr Cymreig. Mae gwybod lle’n union mae’r cynhwysion yn deillio yn rhoi ffydd a hyder i mi yn y bwyd rydyn ni’n ei gynnig.
“Mae’n wych cael cydweithio â Bwyd Cymru Bodnant, canolfan ragoriaeth fwyd newydd yma ar garreg ein drws. Edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu’r berthynas waith dros y misoedd nesaf.”
Ymhen ychydig fisoedd, bydd Bwyd Cymru Bodnant hefyd yn darparu cig mochyn Cymreig i’w weini mewn bara ar gyfer 1,000 o ferched sy’n codi arian ar gyfer taith gerdded noddedig arbennig, ‘Midnight Pyjama Walk.’ Bydd y digwyddiad sy’n cychwyn o Ganolfan Eirias ar y 10fed o Fai, yn codi arian tuag at Dŷ Gobaith.
Breuddwyd perchnogion stad Bodnant, Michael a Caroline McLaren, oedd creu Bwyd Cymru Bodnant, a leolir wrth ymyl yr A470 rhwng Glan Conwy a Llanrwst. Eu gweledigaeth i greu canolfan arloesol i gynhyrchu, hyrwyddo a mwynhau bwyd Cymreig oedd yn gyfrifol am weddnewid rhes o adeiladau fferm yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif yn Fferm Ffwrnais.
Cefnogwyd y prosiect gan £3.3m oddi wrth Lywodraeth Cymru, gan gynnwys arian Cronfa Datblygu Rhanbarthau Ewrop, Arian Cyfatebol wedi ei Dargedu a grant prosesu a marchnata fel rhan o’r Cynllun Datblygu Gwledig.
Mae siop y fferm ar agor o 10am i 6pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac o 11am i 5pm ar ddydd Sul ac mae’r ystafell de ar agor o 9am i 6pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac o 10am i 5pm ar ddydd Sul. Mae’r bwyty ar agor bob dydd o hanner dydd i 4pm ac o ddydd Iau i ddydd Sadwrn o hanner dydd i 11pm (gan dderbyn yr archeb olaf am 9pm).
Llun: Ian Miles