Mwy o Newyddion
Gwaith yn cychwyn ar gynllun Pont Briwet newydd
MAE gwaith cychwynnol wedi dechrau ar brosiect gwerth £19.5 miliwn i adeiladu Pont Briwet newydd rhwng cymunedau Penrhyndeudraeth a Thalsarnau.
Bydd yn cymryd lle’r hen bont bren dros Afon Dwyryd ac sy’n dyddio’n ôl i’r 1860au. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gyda mwy na £9 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, sydd wedi ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â Network Rail, Cyngor Gwynedd, a chonsortiwm trafnidiaeth canolbarth Cymru TraCC.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Roberts: “Rydw i’n falch iawn fod gwaith yn cychwyn ar y cynllun hynod bwysig yma i ardal Meirionnydd o’r sir.
“Er bod yr hen Bont Briwet wedi gwasanaethu’r ardal yn dda ers bron i 150 o flynyddoedd, mae’r bont wedi gweld dyddiau gwell a bellach tydi o ddim yn addas ar gyfer anghenion trafnidiaeth y dyddiau yma. Y ffaith amdani ydi, chafodd y bont ddim ei hadeiladu ar gyfer y llwyth traffig mae bellach yn ei chario bob diwrnod.
“Pan fydd hi’n agor yn 2015, bydd y Bont Briwet newydd yn darparu cyswllt allweddol ar gyfer ffyniant economaidd a chymdeithasol yr ardal a bydd yn sicrhau amseroedd siwrne byrrach ar gyfer aelodau’r cyhoedd a busnesau lleol.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Network Rail: "Mae’r cynllun yma yn cysylltu nifer o brosiectau gwella eraill yng Ngogledd Cymru a fydd yn darparu siwrnai gwell ac yn rhoi hwb i economi’r ardal. Bydd y gwaith gyda Phont Briwet yn ei gwneud hi’n haws i deithio rhwng Harlech, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog a hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd tra mae’r gwaith pwysig yma yn cael ei gwblhau.”
Bydd y bont newydd yn parhau i gario trac rheilffordd sengl ond bydd hefyd yn cynnwys priffordd gyhoeddus ddwyffordd ynghyd a llwybr beicio i gymryd lle’r un lon bresennol. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i gerbydau trwm a mawr deithio wyth milltir ychwanegol. Ond pan fydd y Bont Briwet newydd yn agor, bydd yn darparu cyswllt hwylus ar gyfer trenau, cerbydau o bob maint, beics a cherddwyr.
Mae cwmni peirianyddol HOCHTIEF (UK) Construction wedi eu hapwyntio fel y prif gontractwyr, a byddant yn gweithio’n agos gyda’r cwmni Mulcair a leolir yng Ngwynedd ar y prosiect a chan gwneud y mwyaf o’u perthynas weithio da gyda chyflenwyr lleol. Bydd digwyddiad “Cyfarfod y Prynwyr” wedi ei gynllunio ar gyfer y dyfodol agos er mwyn sicrhau fod busnesau lleol hefyd yn elwa o’r prosiect adeiladu sylweddol.
Nododd Richard Bruten, Cyfarwyddwr Prosiect HOCHTIEF: “Mae HOCHTIEF yn falch iawn o fod wedi sicrhau’r prosiect heriol yma ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Gwynedd i gyflwyno’r cynllun a gwella trafnidiaeth yn yr ardal.”
Mae’r contractwyr bellach yn brysur gyda gwaith paratoi, gyda gwaith cynllunio terfynol yn cael ei gwblhau a gwaith adeiladu i gychwyn ym mis Mai. Ar hyn o bryd mae gwaith yn bwrw ymlaen i glirio llystyfiant o’r ffyrdd sy’n arwain at y bont bresennol.
Bydd y prosiect yn cynnwys pont dros dro er mwyn hwyluso trafnidiaeth i drigolion yn ystod y prosiect dwy flynedd, gyda’r bont newydd i agor yn fuan yn 2015.
Trwy gydol y cyfnod adeiladu, bydd trigolion lleol yn derbyn newyddlenni rheolaidd er mwyn eu diweddaru ar y gwaith.
LLUN: Delwedd o sut y bydd y bont newydd yn debygol o edrych