Mwy o Newyddion
Canlyniad Cymysg i Gymru yn y bleidlais PAC
Wedi’r bleidlais allweddol i ffermwyr Cymru yn Senedd Ewrop yn Strasbwrg Dydd Mercher, dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, fod angen cynnal mwy o lobio er mwyn sicrhau na fydd ffermwyr Cymru yn colli allan.
Mae’r Polisi Amaeth Cyffredin ar gyfer 2014-2020 yn cael ei ddiwygio a dyma’r tro cyntaf i Senedd Ewrop wneud penderfyniad ar y cyd gyda’r Cyngor - sef y 27 llywodraeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y Cyngor yn cyfarfod yr wythnos nesaf er mwyn penderfynu ar ei safbwynt ond mae’n rhaid i’r ddau gytuno ar ddeilliant terfynol.
Mae diwygio’r PAC yn allweddol oerwyd bo taliadau uniongyrchol (o Golofn I) yn gyfrifol am 80% o incwm fferm yng Nghymru ac 17,000 o ffermwyr o’r holl sectorau yn ddibynnol arnyn nhw.
Wrth siarad ar ôl y bleidlais , dywedodd yr ASE Plaid Cymru: "Gyda’r gefnogaeth a pholisïau cywir, gall dyfodol llewyrchus wynebu cymunedau gwledig a ffermio yng Nghymru. Nod pleidlais heddiw oedd amlinellu safbwynt y senedd cyn dadl y Cyngor ar ddiwygio’r PAC.
"Cafwyd rhai deilliannau cadarnhaol. Er enghraifft, un o brif bryderon y diwydiant ffermio oedd na fyddai digon o amser yn cael ei bennu ar gyfer y newid drosodd i gyfundrefn talu newydd. Credaf fod hyn wedi cael ei oresgyn yn y bleidlais seneddol.
"Rhoesom ein cefnogaeth hefyd i ffermwyr ifanc a phrojectau perchnogaeth gymunedol. Mater arall o bryder mawr oedd cosbau traws-gydymffurfio a bod y system a gefnogwyd gan yr ASEau lawer yn fwy cyfrannol.
"Fodd bynnag, ar yr ochr negyddol, dychwelodd y panel i argymhelliad gwreiddiol y Comisiwn ar gyfer tri mesur gwyrddio: porfa barhaol, arallgyfeirio cnydau a mannau ffocws ecolegol. Mae’r Pwyllgor Amaeth wedi argymell y dylid cydnabod bod cynlluniau amaeth-amgylchedd cyfredol yn rhai sy’n gwyrddio drwy ddiffiniad. Mae hwn yn rhywbeth y byddaf yn ei hyrwyddo yn ystod y dadleuon gyda’r Cyngor. Ni ellir cosbi ffermwyr Cymru am arwain y ffordd yn Ewrop ar gynlluniau amgylcheddol.
"Mae yna lawer o ansicrwydd o hyd ond nid dyma ddiwedd y broses. Byddaf yn gweithio gyda’r gymuned ffermio i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn glir yn y trafodaethau terfynol. Dyw Cymru ddim yn cael ei chynrychioli fel endid unigol yn y Cyngor. Llywodraeth y DG sydd yn pleidleisio yno, felly mae’n rhaid i ni sicrhau taw budd cenedlaethol Cymru – sydd yn wahanol i fudd llywodraeth y DG – a gaiff ei hyrwyddo.
"Dymuna lywodraeth y DG a’r wrthblaid Lafur i dorri cyllideb yr UE yn llym. Byddai hynny’n drychineb i Gymru, ac i’n diwydiant ffermio a dyma pam mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’r toriadau hyn yn gryf. Ni yw’r unig blaid sydd yn gweithio er budd Cymru yn Ewrop. Pleidleisiais eto yn y senedd heddiw i gadw’r gyllideb sydd mor hanfodol ar gyfer ein cymunedau a’n hardaloedd gwledig a byddwn yn dwysau’r lobio er mwyn sicrhau y caiff hwn ei wneud."
Llun: Jill Evans