Mwy o Newyddion
Cosb ariannol am gael 'ystafell sbar'
Ar drothwy protestiadau ar draws Prydain yn erbyn y “dreth ‘stafelloedd gwely” cafodd y bwriad i gwtogi ar fudd-daliadau neu orfodi tenantiaid i symud o’u cartrefi ei feirniadu’n llym gan un o arweinwyr Cristnogol Cymru.
Mae’n gynllun ffôl a fydd yn achosi gofid a chaledi ariannol, meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Bydd tenantiaid tai cyngor neu gymdeithasau tai sydd â “gormod o ‘stafelloedd gwely” yn gorfod symud tŷ neu bod tua £15 yr wythnos ar eu colled, ar gyfartaledd, pan ddaw'r rheolau newydd i rym fis nesa.
“Bydd miloedd lawer o bobl Cymru’n wynebu cosb ariannol am fod â’r hyn a ystyrir i fod yn ‘stafell sbâr,” meddai Dr Geraint Tudur.
“O ganlyniad, bydd nifer fawr yn dioddef caledi gwirioneddol, yn eu plith rhieni sy’n gweithio’n galed am gyflog isel. Bwriad y cynllun yw gorfodi pobl allan o’u cartref i le llai; ond mae prinder tai a fflatiau un-llofft eisoes.
“Rhaid i ni Gristnogion, fel dilynwyr yr Un a ddywedodd nad oedd ganddo le i roi ei ben i lawr, wrthwynebu’r cynllun annoeth hwn a fydd yn tarfu ar gartrefi a bywyd teuluol ac yn achosi gofid a chaledi pellach i rai o’r bobl fwyaf tlawd mewn cymdeithas.”
Llun: Dr Geraint Tudur