Mwy o Newyddion

18 Mawrth 2011
Karen Owen
Cyfle i drafod cynllun Pontio
MAE Aelod Cynulliad Arfon wedi galw cyfarfod i drafod cynllun celfyddydau dadleuol ym Mangor.
Fe fydd y fforwm agored dan y teitl ‘Pontio – a Thu Hwnt’ yn cael ei gynnal yng Nghapel Berea Newydd, Bangor, nos Iau nesaf, Mawrth 24, a’r ganolfan gelfyddydau sy’n cael ei chodi ar hen safle Theatr Gwynedd yn y ddinas fydd y pwnc trafod.
Alun Ffred Jones, AC Arfon a Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd wedi galw’r cyfarfod, ac wedi gwahodd nifer o gymdeithasau ac unigolion sy’n ymwneud â’r celfyddydau i ddod yno i ddweud eu barn.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA