Mwy o Newyddion
Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cynorthwyol yr Unol Daleithiau i draddodi darlith ym Mhrifysgol Aberystwyth
Bydd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cynnal darlith gyhoeddus gan Thomas O. Melia, Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cynorthwyol Adran Wladol yr Unol Daleithiau, ar ddydd Mawrth 19eg o Fawrth.
Pwnc darlith flynyddol Sefydliad Coffa David Davies (DDMI) eleni fydd ‘Is it realistic to think we can advance democracy and human rights?’ a bydd yn cael ei chynnal ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais am 6 o’r gloch yr hwyr.
Eglurodd Dr Grant Dawson, Dirprwy Gyfarwyddwr y DDMI: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Thomas Melia. Mae ei ddarlith yn addo bod yn ddatganiad polisi pwysig am bolisi tramor yr Unol Daleithiau gan uwch ddiplomydd yng Ngweinyddiaeth Obama. Rwy'n siŵr y bydd yn codi ychydig o gwestiynau."
Dirprwy Ysgrifennydd Cynorthwyol Gwladol yn y Swyddfa Democratiaeth, Hawliau Dynol a Llafur (Bureau of Democracy, Human Rights and Labor (DRL)) yw Thomas O. Melia. Mae'n gyfrifol am waith y DRL yn Ewrop, gan gynnwys Rwsia, ac yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.
Mae wedi arwain Dirprwyaeth yr Unol Daleithiau i gyfarfodydd y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop (Organisation for Security and Cooperation in Europe - OSCE), ac wedi cyd-gadeirio cyfarfodydd grwpiau gweithio yr Unol Daleithiau/Georgia a’r Unol Daleithiau/Wcráin.
Ymunodd Thomas Melia ag Adran y Wladol yn 2010 o Freedom House lle'r oedd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol. Cyn hynny, bu mewn uwch swyddi gyda’r National Democratic Institute a’r Free Trade Union Institute yn AFL-CIO. A chyn hynny, bu'n gweithio i’r Seneddwr Daniel Patrick Moynihan ar Capitol Hill.
Mae wedi dysgu cyrsiau ar ddemocratiaeth a hawliau dynol ym Mhrifysgol Georgetown ac Ysgol Astudiaethau Rhyngwladol Prifysgol Johns Hopkins. Cyhoeddodd nifer o erthyglau a ddarllenwyd yn eang ar faterion yn ymwneud â democratiaeth a hawliau dynol ac mae’n gyd-olygydd Today’s America: How Free? (2008).
Llun: Thomas Melia