Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Mawrth 2013

Cyhoeddi enw Hoff Awdur Cymru – Caryl Lewis

I ddathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru, cyhoeddwyd heddiw ar raglen radio Nia Roberts mai enillydd Cystadleuaeth Hoff Awdur Cymru yw Caryl Lewis.

Mae’r awdur poblogaidd, a aned yn Dihewyd, ger Aberaeron, bellach yn byw ar fferm ger Aberystwyth ac yn ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion. Enillodd ei nofel Iawn Boi? Wobr Tir na n-Og yn 2005, ac enillodd Wobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2005 gyda’i nofel Martha, Jac a Sianco, oedd yn adlewyrchu’r newidiadau yng nghefn gwlad drwy ei phortread sensitif o’r berthynas rhwng dau frawd a chwaer oedd yn rhedeg y fferm deuluol.

Bellach mae’r nofel wedi ei chyfieithu i’r Saesneg a’i haddasu’n ffilm ar gyfer S4C. Mae Caryl bellach wedi cyhoeddi dros ugain o deitlau, gan gynnwys ei nofel ddiweddaraf, Naw Mis (2009).

“Mae’n anrhydedd fawr ennill y gystadleuaeth hon,” meddai Caryl Lewis, “yn enwedig felly gan mai’r darllenwyr ei hunain oedd yn gwneud y dewis. Mae pob awdur yn naturiol yn falch o wybod bod eu gwaith yn apelio at y gynulleidfa.”

Trefnwyd y gystadleuaeth gan Radio Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, gyda rhestr fer o ddeg awdur yn cael eu dewis gan banel oedd yn cynnwys llyfrwerthwyr a llyfrgellwyr. Yn dilyn trafod gwaith yr holl awduron ar raglen radio Nia Roberts ar Radio Cymru, cafodd y cyhoedd gyfle i bleidleisio dros eu hoff awdur.

Dywedodd Lowri Davies, Golygydd Rhaglenni Cyffredinol BBC Radio Cymru: “Roedd hi’n gystadleuaeth ddifyr iawn, gyda deg awdur hynod gryf ar y rhestr fer. Llongyfarchiadau i Caryl Lewis, yr awdur a ddaeth i’r brig.

"Mae Caryl yn sicr wedi gwneud ei marc dros y blynyddoedd diwethaf fel awdur gweithiau i blant ac oedolion, a hynny mewn sawl cyfrwng gwahanol. Mae gweithiau o’i heiddo, fel ei nofel Martha, Jac a Sianco, yn sicr wedi creu argraff ddofn ar ddarllenwyr Cymraeg ac mae’r wobr hon yn brawf o’i phoblogrwydd.”

Cyngor Llyfrau Cymru fu’n cydlynu gweithgareddau Diwrnod y Llyfr yng Nghymru a dywedodd Angharad Tomos, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor: “Mae llwyddiant cystadleuaeth Hoff Awdur Radio Cymru eleni a’r drafodaeth fywiog a gafwyd ar yr enwau oedd ar y rhestr fer yn arwydd clir o’r diddordeb sydd yng ngwaith awduron Cymru a’r mwynhad a geir o ddarllen eu gwaith. Mae’n arwyddocaol hefyd, ar Ddiwrnod y Llyfr, mai’r darllenwyr oedd yn dewis yr enillydd ac mae’n braf cael llongyfarch Caryl ar ei llwyddiant.”

Ychwanegodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Llenyddiaeth Cymru yn llongyfarch Caryl Lewis yn wresog iawn am ddod i’r brig yn y gystadleuaeth hon.

"Mae Caryl yn awdur profiadol a llwyddiannus iawn eisoes, ac yn enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2005. Mae hi hefyd yn weithgar iawn yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o awduron, trwy ei gwaith gyda Sgwadiau Sgwennu’r Ifanc a’r cynllun Awduron ar Daith.”

Llun: Caryl Lewis

 

Rhannu |