Mwy o Newyddion
Coffàu sefydlu Cymdeithas yr Iaith
Bydd aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn coffàu sefydlu’r mudiad iaith dros hanner can mlynedd yn ôl drwy ddadorchuddiad plac yn Yr Institiwt ym Mhontarddulais am 11yb ddydd Sadwrn, Mawrth 9.
Bydd Cadeirydd presennol y mudiad Robin Farrar, yn ymuno ag un o sylfaenwyr y Gymdeithas, Gareth Miles, a’r cynghorydd tref Eifion Davies. Dyma fydd y digwyddiad olaf mewn cyfres, oedd yn cynnwys gig Hannercant a rali ar bont Trefechan yn Aberystwyth, i ddathlu hanner can mlynedd o ymgyrchu gan y mudiad iaith.
Sefydlwyd y Gymdeithas yn Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais ddydd Sadwrn Awst y 4 1962 fel ymateb i her a rhybudd a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn gan Saunders Lewis y byddai’r iaith Gymraeg yn marw cyn diwedd yr ugeinfed ganrif oni fyddid yn mabwysiadu dulliau chwyldroadol.
Llun: Robin Farrar