Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Mawrth 2013

Gostyngiad o 18 y cant yn allyriadau carbon Llywodraeth Cymru

Yn ôl ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi, bu gostyngiad o 18 y cant yn allyriadau carbon Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn nhabl cynghrair Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon gan Lywodraeth y DU, mae’r ffigurau’n dangos bod Llywodraeth Cymru ymhlith y tri uchaf o holl adrannau Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig.

Fel rhan o Gynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon, mae’n rhaid i dros 2,000 o gwmnïau preifat a sefydliadau sector cyhoeddus ar draws y DU, gan gynnwys adrannau’r llywodraeth, adrodd ar eu hallyriadau carbon bob blwyddyn. 

Bu gostyngiad yn allyriadau carbon Llywodraeth Cymru o 18,056 tunnell yn 2010-11 i 14,837 tunnell yn 2011-12 – gostyngiad o 18 y cant. Yn 2010-11, roedd  Llywodraeth Cymru yn safle rhif 320 a bellach, yn nhabl 2011-12, mae yn safle rhif 71. 

Mae’r canfyddiadau hyn yn ystyried allyriadau adeiladau Llywodraeth Cymru a Cadw ynghyd ag allyriadau’r rhwydwaith o gefnffyrdd yng Nghymru.

Croesawyd y ffigurau gan John Griffiths, y Gweinidog Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ystod yr Wythnos Newid Hinsawdd, a dywedodd: “Rydym yn benderfynol o arwain drwy esiampl gan sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud yr hyn sydd o fewn ei gallu i leihau ein hallyriadau carbon a’n heffaith ar yr amgylchedd.

“Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos llwyddiant ein buddsoddiad mewn mesurau arbed ynni ac adeiladau newydd, mwy, sy’n fwy effeithlon na’r hen adeiladau. Hefyd, rydym yn gwella’r modd o reoli carbon ar ein rhwydwaith o gefnffyrdd, ein cestyll, ein safleoedd treftadaeth ynghyd â’n hadeiladau sy’n gartref i amrywiaeth o fusnesau Cymru.

“Er ein bod yn falch gyda’n hymdrechion hyd yma, nid ydym am laesu dwylo, a byddwn yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiant.”

Llun: John Griffiths

Rhannu |