Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2013

Plaid Cymru’n galw am fwy o weithredu i greu cyfleoedd i fenywod

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ac Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, wedi galw heddiw ar i bob lefel o lywodraeth wneud mwy i annog cydraddoldeb rhwng y ddau rhiw. Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yw hi heddiw  (Dydd Gwener, Mawrth 8) ac fe amlygodd Ms Evans y ffaith fod Cronfa Cymdeithasol Ewrop yn ffynhonell hanfodol i Gymru wrth fynd i’r afael ag anghdraddoldeb rhyw.

Dywedodd Jill Evans ASE, Llywydd Grŵp EFA yn Senedd Ewrop: “Mae Diwrnod Rhynglwadol y Menywod yn gyfle i ni ganolbwyntio ar y cyfleoedd a’r rhwystrau sy’n wynebu menywod ar draws y byd. Fel menyw sy’n cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop, rwy’n falch o’r cynnydd a wnaed. Ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd.

“Mae menywod yn chwarae rhan hanfodol mewn pob math o sefydliadau yng Nghymru gan frwydro yn erbyn tlodi, cam-drin ac anghydraddoldeb. Mae nifer o’r sefydliadau hyn yn eu tro yn dibynnu ar arian o’r Undeb Ewropeaidd er mwyn ymgymryd â’r gwaith. Mae toriadau yng nghyllideb yr Undeb Ewropeaidd yn argoeli’n ddrwg i Gymru oherwydd fod angen y gefnogaeth hynny arnom er mwyn adeiladu cymdeithas ac economi gynaliadwy.

“Rwyf wedi gweithio’n agos gyda grwpiau merched yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at gael estyn croeso i Chwarae Teg ym Mrwsel fis Mehefin a chyflwyno canlyniadau Rhaglen Gynnydd y Genedl Ystwyth i Ferched, a ariannir yn rhannol gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop. Mae’r rhaglen yma’n cynnig hyfforddiant a chymorth i helpu menywod ddysgu arweinyddiaeth tîm  a medrau rheoli ac i gael cymwysterau fydd yn eu galluogi i ddod o hyd i waith.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Diweddu Trais yn erbyn Menywod yw Thema’r Cenhedloedd Unedig eleni ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac mae hynny’n amserol iawn. Gwelwyd achosion erchyll, uchel eu proffil ar draws y byd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, lle cafodd menywod eu lladd neu glwyfo’n ddifrifol.

“Mae yna ffordd bell i fynd cyn dod â thrais yn erbyn menywod i ben. Mae’r broblem yn un lleol a byd-eang. Yn fy swyddogaeth ar fwrdd yr ymddiriedolwyr ar gyfer elusen leol sy’n brwydro yn erbyn cam-drin domestig, fe wyddaf bod achosion o drais yn erbyn menywod ac yn aml eu plant, yn digwydd ar gyfradd arswydus.

“Dylai Cymru edrych yn ofalus hefyd ar y ffyrdd y gallwn adfer cydbwysedd rhywiol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a sicrhau gall cam-drin domestig a materion eraill sy’n berthnasol i fenywod, aros yn uchel ar yr agenda wleidyddol. Ar ôl sicrhau cydraddoldeb rhywiol yn yr ail Gynulliad, disgynodd y nifer o Aelodau Cynulliad benywaidd yn y ddau Gynulliad a ddilynodd wedi hynny.

“Dylai Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ein hatgoffa o bwysigrwydd cael cydbwysedd rhwng dynion a menywod mewn bywyd cyhoeddus. Gellir dweud yr un peth am fyrddau cyrff cyhoeddus Cymreig. 

“Dylai ein holl gyrff cyhoeddus fod yn fwy cynrychiolgar os ydyn nhw am adlewyrchu cymdeithas yn wirioneddol.” 

Llun: Leanne Wood

 

Rhannu |