Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Mawrth 2013

Dylid ystyried ehangu egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’ yn y Bil asbestos

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried p’un a ddylai ehangu’r agwedd ar y ‘Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)’ sy’n nodi mai’r ‘llygrwr ddylai dalu’, i gynnwys clefydau diwydiannol eraill, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Prif egwyddor y Bil, a gynigiwyd gan Mick Antoniw AC, yw y gallai’r rhai sy’n gyfrifol am achosi niwed drwy glefydau sy’n gysylltiedig ag asbestos fod yn gyfrifol am dalu costau trin y niwed hwnnw hefyd.

Wrth gytuno’r egwyddor hon , daeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r casgliad y gallai’r un egwyddor hefyd gael ei defnyddio’n ehangach.

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor wedi codi pryderon ynghylch a yw’r dull o adennill y costau sylweddol sy’n gysylltiedig â thrin clefydau asbestos yn gadarn.

Nododd y Pwyllgor hefyd y gallai’r Bil arwain at fod Llywodraeth Cymru yn adennill costau o’r fath gan sefydliadau y mae hi yn eu hariannu, ac mae’n gofyn, a yw’n gwneud synnwyr i adennill arian o un maes o’r sector cyhoeddus ar gyfer ei ailgylchredeg i faes arall.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r Pwyllgor yn cytuno bod angen deddfwriaeth i gyflawni egwyddorion cyffredinol y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).

“Ond credwn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried tybed a ddylid ehangu’r model hwn i gynnwys clefydau diwydiannol eraill, a goblygiadau datblygiad o’r fath.

“Mae’r Pwyllgor hefyd yn cwestiynu a yw’r dull o adennill y costau sylweddol sy’n gysylltiedig â thrin clefydau asbestos yn gadarn.

“Rydym yn argymell bod yr amcangyfrifon ariannol y seiliwyd y Bil hwn arnynt yn cael eu diweddaru cyn gynted â phosibl, cyn y cam nesaf yn y broses ddeddfu.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

·         Dylai Llywodraeth Cymru ystyried gweithredu’r egwyddor mai’r “llygrwr sy’n talu” am bob clefyd diwydiannol, a chlefydau eraill ble y mae modd nodi cyfrifoldeb dros achos y clefydau, ac ystyried cyflwyno ei Fil ei hun er mwyn rhoi’r egwyddor hon ar waith;

·         Dylai’r Aelod sy’n gyfrifol am y Bil a Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i’r mater a yw costau gofal lliniarol wedi’u cynnwys yn y gost a sut y byddai modd eu gweithredu;

·         Bydd yn disgwyl i’r Aelod sy’n gyfrifol am y Bil a Llywodraeth Cymru roi sylw mwy trylwyr i’r graddau y bydd arian a gaiff ei adennill yn debygol o gael ei gylchredeg eto o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan edrych yn benodol ar batrymau o ran cyfrifoldeb yn y sector cyhoeddus yn y dyfodol; a

·         Dylai’r Aelod sy’n gyfrifol am y Bil a Llywodraeth Cymru gyflwyno’r gwelliannau angenrheidiol i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn flynyddol ar gostau a adenillwyd, y defnydd a wnaed o’r arian hwn a phwy a’i cafodd.

Bydd y Cynulliad llawn yn cynnal dadl ar y Bil yn ystod y Cyfarfod Llawn yn awr, cyn yr aiff ymlaen i Gyfnod 2 y broses ddeddfu, pan gaiff ei ystyried yn fanylach a pan gall  Aelodau’r Cynulliad cyflwyno gwelliannau arfaethedig iddo, i’w trafod.

 

Rhannu |