Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Mawrth 2011
Karen Owen

Galw eto am sefydlu Fforwm Ddarlledu Cymraeg

MAE ymgyrchwyr iaith wedi galw am sefydlu corff newydd i gadw golwg ar safon y Gymraeg sy’n cael ei chlywed ar Radio Cymru – corff a fyddai’n rhoi annibyniaeth a statws, medden nhw, i wrandawyr Cymraeg hefyd.

Wrth roi tystiolaeth ar ddiwedd Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o orsafoedd radio cenedlaethol y BBC yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban, mae Cylch yr Iaith wedi galw eto am sefydlu Fforwm Darlledu Cymraeg, yn ogystal â pholisïau cadarn a fyddai’n ymwrthod â “hyrwyddo” y diwylliant Eingl-Americanaidd, “dyrchafu selebiaid” a darlledu caneuon a chyfweliadau Saesneg ar raglenni Radio Cymru.

Fe gafodd Cylch yr Iaith eu cyfle i gyflwyno tystiolaeth i Gyngor Cynulleidfa Cymru, dan gadeiryddiaeth Elan Closs Stephens (Ymddiriedolwr Cymru), ar Chwefror 10 eleni, ar ddiwedd tri mis o gasglu gwybodaeth gan y BBC yn ganolog.

“Mi gawson ni gyfle teg a llawn yn y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf i gyflwyno ein tystiolaeth a gosod y dadleuon sy’n sail i’r hyn ydan ni’n gofyn amdano fo,” meddai Ieuan Wyn, Ysgrifennydd Cylch yr Iaith, a fu gerbron Cyngor Cynulleidfa Cymru.

“Rydan ni’n edrych ymlaen at weld sut fydd y BBC yn ymateb i’r dystiolaeth, ac os byddan nhw’n derbyn rhai o’n hargymhellion ni mewn perthynas â Radio Cymru.”

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Llun: Ieuan Wyn

Rhannu |