Mwy o Newyddion
Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales yn cael ei benodi’n gadeirydd Creative Skillset Cymru
Mae Creative Skillset Cymru wedi penodi Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, yn gadeirydd newydd ei Fwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol.
Mae’n cymryd lle John Geraint, Cyfarwyddwr Creadigol Green Bay, fel cadeirydd y bwrdd sy’n gyfrifol am arwain a chefnogi gwaith Creative Skillset yng Nghymru.
Dywedodd Rhodri: “Mae’n anrhydedd cael fy ngwahodd i gadeirio sefydliad deinamig fel Creative Skillset Cymru, a hoffwn ddiolch i John am ei gyfraniad aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae sgiliau a hyfforddiant yn hollbwysig i ddatblygiad y diwydiannau creadigol yng Nghymru, a rwy’n gwybod bod gan Creative Skillset Cymru y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i helpu i sbarduno’r sector. Fy nod yw datblygu’r gwaith da sydd eisioes wedi’i gyflawni yn enwedig yn ystod cyfnod o newid sydd mor eithriadol a chyffrous."
Dywedodd Stewart Till CBE, Cadeirydd Creative Skillset a Phrif Swyddog Gweithredol Sonar Entertainment: “Mae Rhodri’n fawr ei barch â proffil uchel yn y diwydiant a mae’n anrhydedd i mi ei groesawu i Fwrdd Ymgynghorol Creative Skillset Cymru. Mae e wedi cael cydnabyddiaeth eang am ei waith arloesol a dylanwadol ym maes teledu digidol, ac rwy’n falch iawn y bydd yn helpu i arwain ein gwaith yng Nghymru.”
Mae gan Rhodri gyfrifoldeb golygyddol a rheolaethol cyffredinol dros BBC Cymru Wales, sydd â throsiant blynyddol o fwy na £150 miliwn ac sy’n cyflogi 1,200 o staff ledled Cymru. Mae’n gyfrifol am arwain y timau creadigol sy’n cynhyrchu mwy na 15,500 o oriau o raglenni radio a theledu lleol bob blwyddyn ac amrywiaeth eang o raglenni rhwydwaith yn ogystal a phortffolio o wasanaethau arlein. Mae e hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli’r BBC o dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC.
Ar ran Creative Skillset Cymru, bydd Rhodri’n croesawu gwesteion i ddigwyddiad a gynhelir yn Stiwdios Porth y Rhath BBC Cymru ar 13 Mawrth i ddathlu buddsoddiad gwerth £1.1 miliwn yn rhaglenni Prentisiaeth newydd Creative Skillset Cymru. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â phen-blwydd cyntaf agoriad swyddogol Stiwdios Porth y Rhath.
Bydd Mr Davies yn ymuno ag aelodau blaenllaw eraill o’r diwydiant ar Fwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol Creative Skillset Cymru sy’n arwain ac yn cynghori gwaith Creative Skillset yng Nghymru o fewn cyd-destun ei gylch gorchwyl ar gyfer y DU gyfan.
Llun: Rhodri Talfan Davies