Mwy o Newyddion
Allforio mwy o Gig Oen Cymru i’r Dwyrain Canol
Mae’r galw am Gig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol yn cynyddu’n enfawr, gyda chynnydd o 185 y cant yn ystod deufis cyntaf eleni yn unig.
Dadlennwyd y ffigurau gan yr asiantaeth sy'n hyrwyddo cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru, ar ôl i gynrychiolwyr yr asiantaeth a chwmnïau allforio o Gymru fynychu Gulfood yn Dubai, sef y ffair fasnach fwyaf yn y Dwyrain Canol.
“Cafwyd cynnydd o 56 y cant yn y fasnach i un mân-werthwr yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn 2012 mewn cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol,” meddai Prif Weithredwr HCC, Gwyn Howells.
“Ond yn ystod deufis cyntaf 2013 yn unig, mae cyfaint Cig Oen Cymru a gafodd ei allforio i’r mân-werthwr hwn wedi cynyddu 185 y cant mewn cymhariaeth â’r cyfnod cyfatebol yn 2012.
"Mae hyn yn newyddion rhagorol ac yn dangos yn glir fod yna alw cynyddol am Gig Oen Cymru ffres o ansawdd yn y rhan yma o’r byd.”
Mae HCC a chwmnïau prosesu o Gymru ar hyn o bryd yn delio ag ymholiadau pellach ynglŷn â Chig Oen Cymru, yn enwedig yn Sawdi-Arabia, Coweit ac Oman. Mae hyn yn dilyn taith ymchwil gan gynrychiolwyr o’r gwledydd hynny i Gymru'r mis diwethaf, pan fuon nhw’n ymweld â fferm ddefaid a dau ladd-dy i weld yn y fan a’r lle sut mae Cig Oen Cymru yn cael ei gynhyrchu a’i brosesu.
“Mae allforion yn rhan hollbwysig o’r diwydiant cig coch yng Nghymru oherwydd mae’n cyfoethogi cymunedau cefn gwlad yng Nghymru ac yn hybu ein heconomi yn gyffredinol,” meddai Mr Howells.
Llun: Gwyn Howells