Mwy o Newyddion
Prosiect peilot yn profi ffyrdd o adfywio twyni tywod Niwbwrch
Tywyn Niwbwrch yw un o systemau twyni tywod gorau Cymru. Ond, ar ôl blynyddoedd o orsefydlogi a gordyfiant, gyda rhai planhigion a phryfed prin bron iawn wedi diflannu, mae prosiect peilot newydd bellach yn rhoi cynnig ar ffyrdd o ailfywiogi’r twyni.
Bydd y prosiect peilot yn cael ei roi ar waith y mis yma yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Tywyn Niwbwrch/Ynys Llanddwyn. Y nod yw creu llecynnau bach, newydd o dywod noeth, agored a phantiau gwlyb, a fydd yn rhoi hwb i oroesiad rhai o bryfed a phlanhigion prinnaf y twyni tywod – yn cynnwys llysiau’r afu, picwn y tywod, gwenyn turio a chwilod prin.
Mi fydd peiriannau trwm yn cael eu defnyddio i roi help llaw i natur trwy ddechrau creu llecynnau bach o dywod agored a phantiau gwlyb yn y rhan o’r warchodfa sydd agosaf at y môr.
Ac nid y bywyd gwyllt yn unig fydd ar ei ennill. Mae twyni tywod symudol yn creu system fwy dynamig ar gyfer amddiffyn yr arfordir – system sy’n gallu addasu i stormydd a newidiadau yn lefel y môr. Hefyd, maen nhw’n dirweddau naturiol heb eu hail ac yn llefydd gwych y gall pobl eu mwynhau.
Yn ôl Graham Williams, Warden Niwbwrch yn y Cyngor Cefn Gwlad: “Yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf mae twyni tywod y DU wedi mynd yn fwy sefydlog o ganlyniad i sawl peth – er enghraifft mycsomatosis, a arweiniodd at lai o bori, mwy o garbon deuocsid, nitrogen atmosfferig a hinsawdd sy’n fwyfwy gwlyb.
"Mae gwaith ymchwil a gwaith arolygu a wnaed yn ddiweddar yn Nhywyn Niwbwrch wedi darganfod bod cymaint â 94% o dwyni tywod agored, symudol wedi cael eu colli, rhywbeth sy’n cael gwared â’r amodau y mae bywyd gwyllt arbenigol y twyni eu hangen i ffynnu.
“Erbyn hyn, dim ond tri y cant o system dwyni Niwbwrch sy’n dywod noeth, a dim ond hwnt ac yma y mae’r llecynnau yma i’w cael. Mae hyn yn dangos yn gwbl glir i ba raddau y mae llystyfiant wedi gorchuddio’r warchodfa dros y blynyddoedd.
"Efallai fod defnyddio peiriannau cloddio’n ymddangos braidd yn llawdrwm, ond mae’r gwaith rheoli pwysig yma’n cael gwared â’r pridd tywyll a’r glaswelltau trwchus ac yn datgelu llecynnau o dywod noeth sy’n wely hadau delfrydol i blanhigion prin ac yn gartref i bryfed sydd mewn perygl.
“Os cymerwn ni gamau rŵan, rydw i’n hyderus y bydd pryfed prin yn ailddechrau ymsefydlu yn yr ardaloedd dan sylw’n syth, ac y bydd planhigion prin yn cael troedle o fewn dwy flynedd. Trwy geisio rhoi stop ar golli cynefinoedd a rhywogaethau cenedlaethol eu harwyddocâd, byddwn gam yn nes at adfer amrywiaeth a chydbwysedd cynefinoedd y twyni.”
Mae’r cynllun wedi’i ariannu’n rhannol gan Pond Conservation. Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Tywyn Niwbwrch/Ynys Llanddwyn hefyd yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Llun: Broscus cephalotes.- un o'r rhywogaethau fydd ar ei hennill