Mwy o Newyddion
Ni ddylai rheoleiddio arholiadau fod yn swyddogaeth wleidyddol
Mae Plaid Cymru wedi dweud fod y pryderon a godwyd gan CBAC heddiw yn cryfhau’r achos dros wahanu rheoleiddio arholiadau oddi wrth bwerau Llywodraeth Cymru. Mae CBAC heddiw wedi lleisio eu pryderon y gall y sefyllfa a arweiniodd at ailraddio dros ddwy fil o bapurau iaith Saesneg TGAU yng Nghymru yr haf diwethaf godi eto eleni.
Mae Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r canllawiau ar y mesurau cymharu newydd fydd yn cael eu defnyddio.
Dywedodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas: “Yr oedd yr hyn y caniatawyd i ddigwydd llynedd gan lywodraethau Cymru a’r DG fel ei gilydd yn gamgymeriad mawr, ac y mae gan CBAC bob hawl i boeni y bydd yr un peth yn digwydd eto eleni. Ar yr adeg hon yn y cylch arholiadau llynedd y penderfynodd Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r un rhagfynegiadau â Lloegr, a arweiniodd ar gam-raddio papurau arholiad iaith Saesneg a gymerwyd gan fyfyrwyr Cymru. Nid ydym wedi cael unrhyw gadarnhad y penderfynwyd yn wahanol eleni.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y bydd y mesurau cymharu ar gyfer gosod graddau myfyrwyr Cymru yn newid, ond nid ydynt wedi medru esbonio’r newidiadau hyn. Mae myfyrwyr Cymru wedi eistedd rhai modiwlau TGAU heb ddeall yn llawn sut y cânt eu graddio, ac y mae hyn yn annerbyniol. Mae Plaid Cymru wedi galw am gymryd swyddogaethau rheoleiddiwr arholiadau ymaith oddi wrth Lywodraeth Cymru ac y mae hyn yn profi pam y dylai ddigwydd. Ni ddylai rheoleiddio byrddau arholi fod yn swyddogaeth wleidyddol, ac yr ydym eisiau gweld sefydlu rheoleiddiwr arholiadau annibynnol er mwyn sicrhau y bydd yn annibynnol.
“Yr hyn sydd arnom ei angen fwy na dim yw system reoleiddio y gallwn ymddiried ynddi. Gwaith Llywodraeth Cymru yw sicrhau safonau ein system addysg, ac y mae’n rhaid i’r llywodraeth yn awr roi sicrwydd i’r byrddau arholi a myfyrwyr Cymru na fydd llanast llynedd yn digwydd eto.”