Mwy o Newyddion
Elfyn Llwyd yn galw ar y Llywodraeth i adnewyddu addewidion stelcian
MAE Elfyn Llwyd AS Plaid Cymru wedi ymuno â’r ymgyrch ‘One Billion Rising’ i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod ac annog llywodraethau ledled y byd i weithredu i daclo’r broblem.
Defnyddiodd Mr Llwyd a gadeirioedd Ymchwiliad Seneddol Annibynol i Ddiwygio’r Gyfraith Stelcian ddadl yn y Senedd ddydd Iau i alw ar y Llywodraeth i adnewyddu addewidion a wnaed yn dilyn rhoi’r ddeddf stelcian newydd ar waith llynedd – deddf a ffurfiwyd o ganlyniad i waith yr Ymchwiliad.
Ychwanegodd fod trais yn erbyn menywod a merched yn realaeth trist bywyd pob dydd i lawer gormod o bobl, a galwodd ar y Llywodraeth i weithredu ar ei addewidion fel y gall dioddefwyr deimlo eu bod yn medry dibynnu ar y system gyfiawnder am gefnogaeth.
Dywedodd Mr Llwyd: “Rwy’n falch o fod yn rhan o’r ymgyrch ‘One Billion Rising’ drwy ddefnyddio dadl Seneddol i amlinellu’s hyn y dylai Llywodraeth y DU fod yn ei wneud i daclo trais yn erbyn menywod a merched.
“Llynedd, cefais y fraint o gadeirio Ymchwiliad Seneddol Annibynol i Ddiwygio’r Gyfraith Stelcian a arweiniodd at ddeddfwriaeth fwy cadarn i ddelio gyda’r drosedd erchyll hon.
“Mae’r gyfraith stelcian newydd yn cydnabod stelcian sy’n creu ofn trais neu niwed mawr neu boendod. Roedd hi’n hollbwysig i’r panel fod y gyfraith newydd yn nodi nad ydi bygythiadau yn erbyn diogelwch unigolyn o reidrwydd yn gorfforol bob tro. Yn wir, nid ydi trais ei hyn wastad yn rhywbeth corfforol.
“Rwy’n gobeithio y bydd trafodaethau heddiw’n arwain pobl i dderbyn diffiniad ehangach a llawnach o drais fel fod achosion merched sydd efallai wedi eu hanwybyddu yn y gorffennol yn derbyn sylw haeddianol.
“Ymrwymodd y Llywodraeth i weithredu ar argymhellion yr Ymchwiliad drwy gynnig hyfforddiant i weithwyr proffesiynol cyfiawnder droseddol ar sut i adnabod a thrin achosion stelcian, yn ogystal a gwella eiriolaeth dioddefwyr fel y gall pobl deimlo eu bod yn medru dibynnu ar gefnogaeth y system gyfiawnder.
“Heddiw, galwais ar y Llywodraeth i adnewyddu’r addewidion hyn fel y gall y gyfraith newydd amddiffyn cymaint o unigolion â phosib.
“Rhaid i ni hefyd daclo agweddau cyffredinnol ymysg gweithwyr proffesiynol cyfiawnder droseddol a’r cyhoedd ehangach, tuag at bob ffurf o drais yn erbyn menywod a merched.”