Mwy o Newyddion
Ffermwyr Ifanc yn cefnogi calonnau Cymru
Trwy gydol y flwyddyn, bydd clybiau siroedd ac unigolion ledled Cymru yn codi arian i gefnogi apêl Sefydliad Prydeinig y Galon; 'Dim amser i aros'. Mae CFfI Cymru yn anelu at godi digon o arian i brynu diffibriliwr ym mhob un o'u 12 o siroedd ar draws Cymru. Yn galluogi fod y peiriannau achub bywyd ar gael i bobl yng Nghymru wledig.
"Roeddem yn awyddus i rannu ein neges ar draws Cymru drwy ddefnyddio Dydd San Ffolant fel man cychwyn i atgoffa pobl o'r gwaith y byddwn yn ei wneud trwy gydol y flwyddyn gyda Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, gan ddechrau gyda'r ymgyrch cerdded y penwythnos hwn," dwedodd Gwenno Griffith, Cadeirydd CFfI Cymru.
Bydd Gwenno, Cadeirydd CFfI Cymru, yn dechrau ar ei thaith i'r copa uchaf ym mhob Sir ar draws Cymru'r penwythnos hwn, Dydd Sul 17eg Chwefror 2013, efo aelodau Gwent i ben Mynydd Pen-y-fâl . Byddai Gwenno yn gwneud ei ffordd o gwmpas Cymru, ac yn gorffen gydag ein mynydd uchaf, yr Wyddfa ym mis Medi 2013.
Mae Gwenno yn croesawu cefnogaeth gymaint ag y bo modd felly os hoffech chi ymuno neu roi arian, cysylltwch â'r Ganolfan CFfI Cymru ar 01982 553502 am fwy o fanylion.
CFfI Cymru – “calon cefn gwlad Cymru” yn cefnogi calonnau Cymru.
Dangos eich cefnogaeth ar Twitter #12copacffi