Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Chwefror 2013

Cyfle newydd i gerddorion uchelgeisiol

Er mai dim ond unwaith y flwyddyn maent yn digwydd, mae clyweliadau agored Live Music Now yn gyfle euraidd i gerddorion proffesiynol ifanc. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Mawrth 14eg gyda’r clyweliadau’n cael eu cynnal ar Ebrill 25ain yn y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol yng Nghaerdydd

Sefydlwyd Live Music Now gan y diweddar Yehudi Menuhin ym 1977 ac ers 2002 mae Cymru wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer holl glyweliadau LMN y DU. Mae’r broses gystadleuol, dan warchodaeth Gillian Green, yn darparu’r cerddorion proffesiynol ifanc sy’n cael eu dewis gyda phrofiadau perfformio amhrisiadwy mewn lleoliadau mawr a bach. Mae cynulleidfaoedd hefyd yn elwa gan mai’r nod yw mynd â pherfformiadau o safon uchel i bobl na fyddai’n cael y cyfle i fwynhau cerddoriaeth fyw fel arall.

Dywed Gillian Green, Cyfarwyddwr Live Music Now Cymru Wales: “Rwyf wastad yn edrych ymlaen yn eiddgar at dymor clyweliadau Live Music Now.

"Rydym yn cael y fraint o wrando a dewis y talentau gorau o bob arddull cerddorol i ymuno â’r cynllun a’u darparu nhw gyda charreg sarn gwerthfawr rhwng addysg a bywyd proffesiynol.

"Rwy’n falch o gael dweud bod Live Music Now yn darparu cyfleoedd perfformio a gweithdai unigryw mewn amrywiaeth o draddodiadau a diwylliannau cerddorol i gerddorion sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.

“Heb os, mae cael eich dewis i ymuno gyda’r cynllun yn darparu profiadau ffurfiannol unigryw i gerddorion sy’n cychwyn ar eu gyrfaoedd proffesiynol. Byddwn yn annog unrhyw gerddor uchelgeisiol i ymgeisio am y cyfle i fentro ar un o deithiau cerddorol mwyaf cyffrous eu bywydau.”

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgeisio gysylltu gyda Live Music Now cyn y dyddiad cau ar Fawrth 14eg drwy e-bostio wales@livemusicnow.org neu ffonio 02920 554040.

 

Rhannu |