Mwy o Newyddion
18 Mawrth 2011
Karen Owen
Ymgyrch Cofnod dwyieithog
MAE Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi lansio ymgyrch i drio gwneud yn siŵr bod y Cofnod o drafodaethau’r Cynulliad ar gael yn nwy iaith swyddogol Cymru.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, wrth ddathlu Mesur Iaith 2010 sy’n nodi’r Gymraeg fel “iaith swyddogol” yng Nghymru, fe rybuddiodd yr ymgyrchwraig, Catrin Dafydd, mewn cyfweliad gyda’r Cymro, mai’r cam nesaf oedd gwneud yn siŵr fod yr hyn sy’n digwydd ar lawr y Senedd ym Mae Caerdydd ar gael yn Saesneg a Chymraeg.
Ers mis Medi 2010, dydi’r Cofnod ddim wedi bod ar gael yn ddwyieithog, ac mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrthi’n ymchwilio i’r mater, yn dilyn cwynion gan y cyhoedd.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA