Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Chwefror 2013

Eryri – ar y brig drwy Brydain

Yn dilyn arolwg diweddar i ganfod ymwybyddiaeth a barn pobl am Barciau Cenedlaethol ym Mhrydain, roedd Eryri ar y blaen. Canfuwyd mai Parc Cenedlaethol Eryri yw’r enwocaf o holl Barciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

Hwn yw’r trydydd arolwg mewn deuddeg mlynedd i gael ei gomisiynu gan Gymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol sef y gymdeithas sy’n cynrychioli’r teulu o 13 Parc Cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl yr arolwg gan gwmni rmgClarity, o’r holl bobl a holwyd,

·        Canfuwyd mai Parc Cenedlaethol Eryri yw’r enwocaf o holl Barciau Cenedlaethol Prydain (24%), Ardal y Llynnoedd yn ail (22%) ac ardal y Peak yn drydydd (14%)

·        Yr oedd 96% o’r bobl yng Nghymru wedi clywed am Barciau Cenedlaethol o’u cymharu ag 86% yn yr Alban ac 89% yn Lloegr.

·        O ran pwysigrwydd, dywedodd 95% o’r rhai a holwyd yng Nghymru fod Parciau Cenedlaethol yn bwysig, 90% yn Lloegr ac 83% yn yr Alban.

·        Yr oedd 96% o’r rhai a holwyd o’r farn fod angen i blentyn gael profiad uniongyrchol o Barc Cenedlaethol fel rhan o’u haddysg.

Dywedodd Prif  Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips: “Mae canlyniadau arolwg fel hyn yn galonogol iawn i ni yn Eryri. Mae’n amlygu pwysigrwydd Eryri nid yn unig fel cyrchfan, ond mae hefyd yn cadarnhau pa mor bwysig yw hi i warchod y rhinweddau sy’n gwneud Eryri yn ardal mor arbennig. Dyna pam mae’n ddyletswydd arnom fel Parc Cenedlaethol i warchod y dirwedd a’r bywyd gwyllt, darparu cyfleoedd i bobl fwynhau a deall yr ardal, gan hybu ffyniant economaidd yn Eryri ar yr un pryd.

"Yn ogystal â hyn, mae’r arolwg hefyd yn rhoi arweiniad i ni ynglŷn â pha feysydd i’w datblygu. Mae angen i ni wella dealltwriaeth pobl o’r gwaith mae Parciau Cenedlaethol yn ei wneud a datblygu dulliau mwy cyfoes o gyfathrebu â’n cynulleidfaoedd. Mae angen i ni hefyd gydweithio gyda sefydliadau eraill er mwy gwella’r ddarpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus i ac o fewn y Parciau.

"Yr her sydd o’n blaenau ni rwan yw i sicrhau fod y gwaith yma yn cael ei gyflawni er budd cenedlaethau’r dyfodol.”

 

Rhannu |