Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Chwefror 2013

Dyn tywydd yn annog doethineb yn y mynyddoedd

Wrth i arbenigwyr y tywydd ragweld tywydd oer o’n blaenau, a gwyliau hanner tymor a’r Pasg yn nesau, mae wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri , ynghyd â dyn tywydd BBC Cymru, Derek Brockway yn annog cerddwyr i baratoi eu hunain cyn mentro i’r mynyddoedd.

Mae angen cynllunio gofalus bob tro cyn mynd allan i gerdded ym mynyddoedd Eryri, ac mae edrych ar ragolygon y tywydd a chael gwybod beth yw’r amodau dan draed cyn cychwyn yn hanfodol. Yn gerddwr profiadol ei hun, esboniodd Derec Brockway pam fod angen cymryd rhagolygon y tywydd o ddifri yn ystod yr wythnosau nesaf.

“Mae’r eira ar y mynyddoedd yn wahanol iawn i’r eira a welwn yn ein gerddi. Pan fydd eira wedi rhewi’n gorn, bydd yn hynod o lithrig dan draed gan wneud llwybrau, sydd fel arfer wedi eu graddio’n ganolig yn yr haf, yn hynod o beryglus.

"Mae hefyd yn bwysig iawn i wisgo’n gynnes. Mae’r tymheredd yn y mynyddoedd yn medru bod yn is o lawer na’r tymheredd ar lawr gwlad - dim ond ychydig wythnosau ‘nôl, roedd rhagolygon yn dangos oerfel gwynt cyn ised â –15° C.”

Ar ran y bartneriaeth MynyddaDiogel, ychwanegodd Warden y Parc Cenedlaethol Gruff Owen: “Oherwydd yr amodau dan draed yn y mynyddoedd ar hyn o bryd, rhaid i bobl sy’n ymweld â’r copaon gario bwyell iâ a chramponau gyda nhw ac, yn bwysicach fyth, gwybod sut i’w defnyddio.

"Mae’r dyddiau yn parhau i fod yn fyr, felly byddai’n ddoeth i gychwyn yn gynnar gan anelu bod yn ôl ar waelod y mynydd erbyn 17.00 fan bellaf.

"Dwi’n cario fflach lamp a batris sbâr drwy gydol y flwyddyn, ond yn y gaeaf, maen nhw’n hanfodol.

"Fodd bynnag, mae’r offer gorau sydd gennym yn eistedd ar ein hysgwyddau. Pan fyddwn ni’n paratoi’n dda, yn deall ein hyd a’n lled ac yn gwybod pryd i droi yn ôl, rydan ni’n fwy tebygol o fwynhau ein hunain.”

Am fwy o fanylion am ragolygon y tywydd, gellir ymweld â www.bbc.co.uk/weather/2653822, neu www.metoffice.gov.uk/loutdoor/mountainsafety/snowdonia/snowdonia_latest_pressure.html am wybodaeth fanwl am y tywydd yn Eryri. Mae @eryridiogel a @safesnowodnia’n trydar y tywydd, newid amodau dan draed ar y mynyddoedd, yn ogystal â thrydar cyngor cyffredinol ar fynydda a thynnu sylw at arferion da o fynydda.

 

Rhannu |