Mwy o Newyddion
Arian y Loteri i Achosion Da yng Nghymru
Yn ôl ffigurau sy'n cael eu rhyddhau heddiw, fe wnaeth achosion da yng Nghymru dderbyn mwy na £72 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol yn 2012.
Dyfarnwyd 2,717 o grantiau ar draws Cymru, gan roi hwb ariannol hanfodol i brosiectau celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth yn lleol a grwpiau cymunedol gan helpu pobl fwyaf bregus yr ardal.
Ymhlith grantiau'r flwyddyn ddiwethaf y mae:
- £867,114 i Barnardos i gefnogi 500 o deuluoedd â phroblemau cymhleth yng Nghaerdydd
- £797,500 i Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir y Canolbarth i adfer ac adnewyddu Neuadd y Farchnad yn y Drenewydd
- £499,928 i Action on Hearing Loss (RNID gynt) i hyfforddi gwirfoddolwyr i gynnig cymorth teclyn clyw i bobl fregus ar draws Cymru
- £5,000 i 21C Community Association Penfro ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd i greu cerfluniau mawr ar Fythau a Chwedlau i'w gorymdeithio a'u harddangos.
- £440 i Resourceful Learning yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai, Wrecsam, i sefydlu dosbarth ioga i oedolion yn y gymuned
Bellach mae gan y prosiectau hyn, ac unrhyw sefydliad sydd wedi derbyn arian y Loteri yn ystod y 18 mlynedd ddiwethaf, gyfle i gael cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith wrth i Wobrau'r Loteri Genedlaethol 2013 agor i geisiadau.
Dywedodd John Barrowman, cyflwynydd sioe Gwobrau'r Loteri Genedlaethol y llynedd: "Mae'r Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn yr wythnos dros Achosion Da ac mae'r Gwobrau yn ffordd wych o ddathlu'r gwahaniaeth sylweddol y mae'r prosiectau hyn yn eu gwneud i gymunedau.
"Dylai chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yng Nghymru fod yn falch o'r gwahaniaeth y maen nhw'n ei wneud i bobl yn yr ardal. Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn cydnabod yr arwyr tawel, y gweithwyr ymroddedig a'r gwirfoddolwyr anhunanol sy’n gwneud defnydd gwych o arian y Loteri. Os ydych chi'n gwybod am sefydliad a ariennir gan y Loteri sy'n haeddu cael ei enwebu, rydym eisiau clywed gennych."
Mae saith categori i Wobrau'r Loteri Genedlaethol - pob un yn adlewyrchu maes ariannu'r Loteri: Chwaraeon; Treftadaeth; Celfyddydau; Yr Amgylchedd; Iechyd; Addysg; a Gwirfoddol/Elusennol.
Bydd enillwyr Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 a chydnabyddiaeth genedlaethol mewn digwyddiad yn llawn enwogion a ddarlledir ar BBC One yn ddiweddarach eleni.
Llun: John Barrowman
Os dymunwch weld prosiect o Gymru yn cael ei ddathlu yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni, ewch i www.nationallotteryawards.org.uk i gael gwybod mwy neu ffoniwch 0207 293 3599. Mae'r Gwobrau bellach yn agored i geisiadau a gall unrhyw brosiectau sy'n dymuno ymgeisio wneud hynny trwy ymweld â'r wefan. Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 9am ar 19 Mawrth.