Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Chwefror 2013

Hanner tymor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae’n wyliau ysgol am wythnos ond bydd digon o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddiddori’r plant dros hanner tymor 9-17 Chwefror. Mae rhywbeth yma at ddant pawb, celf, archaeoleg, hanes natur a daeareg – a mynediad am ddim!

Mae Cymru wedi bod wrth galon y diwydiant animeiddio ers bron i ganrif, ac mae cymeriadau fel Jerry the Tyke a SuperTed, Sam Tân a Rastamouse yn fyd-enwog. Dewch i brofi'r gorau o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn yr arddangosfa Animeiddio Cymru. Cewch ddysgu am y technegau sy'n dod â delweddau llonydd yn fyw yma!

Beth am ymuno â’r Gweithdai i’r Teulu: Hwyl Animeiddio, 9–12 Chwefror, 11am, 1pm a 3pm. Dyma gyfle i animeiddio’ch teulu – wir yr! Yn y gweithdy cyffrous hwn i’r teulu cyfan, bydd cyfle i chi greu animeiddiad 2D o’ch teulu. Cewch dreulio amser yn mwynhau gwaith celf, hanes natur ac archaeoleg yr amgueddfa yna dod â’r cyfan yn fyw drwy greu animeiddiad byr.

Ydych chi eisiau bod yn gartwnydd? Dewch i roi tro arni yn ein gweithdy cartwnau i deuluoedd gyda’r cwmni o Gaerdydd, Warped Drawings. 9–12 Chwe, 11am-4pm

Dewch i ddygsu mwy am anifeiliaid yng ngweithdai teuluol Gwir y Genynau, 9–17 Chwe, 10am-4pm. Mae’r gweithdai yn ategu arddangosfa newydd O Blith y Bleiddiaid sy’n adrodd hanes anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm dof. Ydych chi byth wedi meddwl am gyndeidiau eich ci anwes? Ydych chi byth wedi ystyried pam fod gwartheg o wahanol liwiau neu cymaint o wahanol ddefaid? Nod arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw ateb rhai o’r cwestiynau cyffredin yma.

Am wybodaeth bellach am ein digwyddiadau ac arddangosfeydd ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.

 

Rhannu |