Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Chwefror 2013

Menter Newid Pethe yn ceisio newid bywydau

Heddiw, ymunodd disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Dewstow a disgyblion Blwyddyn wyth a naw o Ysgol Cil-y-coed, Sir Fynwy, â Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, i lansio Newid Pethe, menter newydd Llywodraeth Cymru, yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd. 

Rhoddodd y disgyblion gyflwyniad am y gwaith maen nhw wedi’i wneud yn ddiweddar gyda Cadw i gloddio fel archeolegwyr yn Llanmelin, ger Caer-went yn Sir Fynwy. Siaradon nhw hefyd am eu rôl fel rhan o’r Panel Ieuenctid sydd wedi’i sefydlu i helpu i ysbrydoli plant i ddysgu mwy am eu hanes lleol ac i wella eu perfformiad yn yr ysgol. Mae’r gwaith cloddio yn rhan o gynllun archaeoleg gymunedol Cadw a fydd yn rhan o’r rhaglen Newid Pethe.

Nod Newid Pethe, sy’n cael £150,000 o gymorth ariannol, yw annog pobl ifanc a’u teuluoedd, yn enwedig y rheini sy’n dod o gefndiroedd llai breintiedig i ymddiddori yng ngwaith amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, a mannau hanesyddol. Bydd hefyd yn helpu asiantaethau cymorth a’r sector diwylliant i weithio hyd yn oed yn well gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bawb a bod pawb yn teimlo y gallan nhw fanteisio arnyn nhw.

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd y Gweinidog: “Mae dileu tlodi plant yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae’n her go iawn ac yn flaenoriaeth ar draws fy mhortffolio i. Dw i am iddo barhau yn ganolog i waith ein hamgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a’r amgylchedd hanesyddol.

“Mae amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a mannau hanesyddol yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant. Drwy ennyn eu diddordeb nhw, gallwn ni feithrin cariad tuag at ddysgu a fydd yn arwain at lai o anghydraddoldeb, yn datblygu sgiliau ac yn gwella ansawdd bywyd a gobeithion bywyd.

“Rydyn ni eisoes wedi gwneud llawer o waith da yn y maes hwn – mae prosiect Gwychder Dibwys Amgueddfa Cymru yn enghraifft wych o’r hyn y mae plant wedi bod yn brolio amdano. Ond nawr, rhaid i ni sicrhau bod yr arfer da hwn yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru.

“Dyna’n union yw nod y fenter Newid Pethe. Bydd yn annog gwasanaethau i adolygu a gwella’r ffordd maen nhw’n darparu gwasanaeth i bobl ifanc, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae angen. Bydd hefyd yn ariannu gweithgareddau a fydd yn dangos sut fath o newid sydd ei angen i annog ein teuluoedd tlotaf a’u plant i gymryd rhan.”

Llun: Huw Lewis

Rhannu |