Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Chwefror 2013

Dyfodol mwy disglair ar gyfer cymunedau arfordirol Cymru

Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans yn gobeithio bydd diwygiadau mawr i Bolisi Pysgodfeydd Cyffredin dadleuol yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig dyfodol mwy disglair i gymunedau arfordirol Cymru.

Bu Aelodau Seneddol Ewropeaid yn pleidleisio (Dydd Mercher) yn Strasbwrg ar nifer o welliannau i’r Polisi yn ei adolygiad mwyaf ers degawd. Yn destun gwawd gan lawer, beirniadwyd polisi pysgodfeydd yr UE a reolir gan Frwsel, dros y blynyddoedd am fethu â hyrwyddo diwydiant pysgota cynaliadwy neu amddiffyn cyflenwadau pysgod.

Bu Ms Evans yn ymgyrchu am ddull o weithredu mwy lleol tuag at drefnu diwydiannau pysgota Ewrop a Chymru. Wrth i ddiwydiannau pysgota amrywio’n anferth o un rhanbarth i’r llall, gobeithir y byddai ymagwedd leol yn fwy effeithiol wrth hyrwyddo pysgota cynaliadwy.

Dywedodd Jill Evans ASE:  "Os gweithredir y diwygiadau hyn a gymeradwywyd heddiw, yna fe ddylem weld  ymagwedd fwy lleol tuag at y ffordd mae’n diwydiant pysgota yn cael ei drefnu. Ar raddfa eithaf bach y cynhelir y rhan fwyaf o bysgota oddi ar arfordir Cymru, ac yn ein hafonydd a llynnoedd hefyd. Does dim cymhariaeth ac yn sicr dim tebygrwydd i’r ymagwedd ddiwydiannol ar raddfa anferth a welwn ym Môr y Canoldir.

"O ganlyniad i’r hyn a gytunwyd heddiw, fe ddylwn weld bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu cymryd rhan gryfach wrth gefnogi ein diwydiant pysgota a chyda mwy o ryddid hefyd. Credaf taw dyma’r ffordd gywir ymlaen, a gallwn barhau i ddatblygu diwydiant o ansawdd uchel a chandi botensial anferth.

""Rwyf hefyd yn falch ein bod wedi pleidleisio i ddod â’r arfer o daflu pysgod nad oeddent yn dymuno eu dal ond sy’n fwytadwy yn ôl i’r môr. Rhaid i ni fynd i’r afael â’r broblem o or-bysgota yn ystod y ddegawd nesaf os ydym am wyrdroi’r prinhad yng nghyflenwadau pysgod Ewrop."

 

Rhannu |