Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Mawrth 2011
Karen Owen

Eisteddfod yr Urdd - dim ceiniog wedi ei chodi hyd yn hyn

MAE Maer Pwllheli wedi addo y bydd y dref yn dechrau ymgyrch i godi arian at Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 yn ystod y mis nesaf, ac y bydd ef ei hun yn cymryd cyfrifoldeb am ddod â chriw ynghyd i wneud y gwaith.

Mae’r Cynghorydd Meic Parry yn cyfaddef y dylai fod yn haws gwneud hynny yn dilyn cyhoeddiad y mudiad ieuenctid mai ar dir stad Glynllifon, ar fin priffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli, y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ddiwedd Mai y flwyddyn nesaf.

Does yna’r un geiniog wedi ei chodi gan y dref hyd yn hyn, er bod pwyllgorau bychain eisoes yn weithgar yn Llanbedrog, Aberdaron a Botwnnog yn Llŷn, ac er bod Cyngor Tref Pwllheli yn cyfrannu at y brifwyl ieuenctid bob blwyddyn, lle bynnag y mae hi’n cael ei chynnal.”

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |