Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2013

Gradd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe i Heini Gruffudd

Heddiw, gwobrwywyd Heini Gruffudd, awdur o fri, ymgyrchydd, ymgynghorydd iaith, ac un o bobl amlycaf Abertawe, am ei gyfraniad i fywyd Cymru ac i'r Brifysgol, pan roddwyd gradd anrhydeddus iddo mewn seremoni raddio yn y ddinas.

Fel athro ac awdur mae wedi treulio oes yn dysgu Cymraeg i blant ac oedolion a rhwng 1990 a 2003 bu’n ddarlithydd yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion y Brifysgol ac ar ôl ymddeol yn gynnar o’r adran honno, mae’n parhau i weithio fel cyfieithydd ac ymgynghorydd iaith.

Meddai Heini Gruffudd: ‘‘Mae wedi bod yn ddiwrnod arbennig o braf ac rwy’n gwerthfawrogi fod y Brifysgol wedi fy anrhydeddu fel hyn. Cefais gyfle i ddechrau gwaith ymchwil ar y defnydd o’r Gymraeg wnaeth arwain at ugain mlynedd o weithio yn y maes. Mae fy nyled i’r Brifysgol yn fawr o’r herwydd.’’

Cafodd ei fagu yn y ddinas, yn fab i’r llenorion a’r Eifftolegyddion Kate Bosse Griffiths, Curadur cyntaf casgliad Canolfan Eifftaidd y Brifysgol a J Gwyn Griffiths, a oedd yn athro yn y Clasuron ac Eifftoleg ym Mhrifysgol Abertawe am dros ddeg ar hugain o flynyddoedd.

Heini yw un o brif ddarparwyr deunydd ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mae ei gyfres helaeth o gyhoeddiadau poblogaidd – yn eu plith Welsh is Fun, the Welsh Learner’s Dictionary a Street Welsh - wedi eu seilio ar ei ymchwil academiadd cadarn i egwyddorion sylfaenol caffael iaith.

Dywedodd Yr Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe: ‘‘Mae Heini Gruffudd yn un o benseiri y Gymru ddwyieithog y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i’w datblygu. Drwy gyfrwng ei waith arloesol y mae wedi dod â chlod a bri i’r Brifysgol ac mae ei ymroddiad i wasanaethau’r gymuned ehangach yn batrwm o’r pontio angenrheidiol rhwng ysgolheictod a chymdeithas. Rydym felly yn hynod o falch i'w anrhydeddu gyda'r radd hon.’’

 

Rhannu |