Mwy o Newyddion
Paratoadau ar gyfer Eisteddfod 2013 yn prysuro
Gydag ychydig dros chwe mis i fynd cyn cychwyn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau, mae’r paratoadau ar gyfer y Brifwyl yn prysuro, yn lleol ac yn genedlaethol.
Yr wythnos hon, cyhoeddwyd manylion y maes carafanau a gwersylla, ac mae’r ffurflenni cais ar gael naill ai ar wefan yr Eisteddfod neu drwy gysylltu gyda’r swyddfa ar 0845 4090 400. Mae trefnwyr yn annog pawb sy’n dymuno gwneud cais am safle i ddychwelyd y ffurflen i swyddfa’r Eisteddfod cyn gynted â phosibl.
Meddai’r Trefnydd, Hywel Wyn Edwards, “Mae’r ffurflenni carafanio a gwersylla eisoes yn cael eu dychwelyd atom, sy’n argoeli’n dda ar gyfer mis Awst. Gobeithio’n arw y bydd y maes carafanau’n orlawn yn Sir Ddinbych gan ei fod yn hynod o gyfleus ar gyfer y Maes, felly bydd yn hawdd iawn i’r rheini sy’n aros yma i gyrraedd yr Eisteddfod bob dydd.
“Mae’r system docynnau ychydig yn wahanol eleni hefyd. Bydd tocynnau Maes yn mynd ar werth ar 1 Mawrth fel arfer, ond o hyn ymlaen, byddwn yn rhyddhau tocynnau ar gyfer ein gweithgareddau nos gyda 100 diwrnod i fynd cyn cychwyn yr Eisteddfod. Eleni, bydd y tocynnau ar gyfer ein cyngherddau’n mynd ar werth ar 24 Ebrill, gyda manylion yr arlwy’n cael ei ryddhau ychydig yn gynharach. Rydym yn galw ar bobl i gadw golwg ar ein gwefan ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr rheolaidd am y newyddion diweddaraf.
“Mae rhai o’r dyddiadau cau eisoes wedi pasio, gyda’r dyddiad cau ar gyfer Medal Goffa Syr T H Parry-Williams a'r Fedal Wyddoniaeth wythnos yn unig i ffwrdd, ddiwedd y mis. Felly, os hoffech chi enwebu unrhyw un ar gyfer y naill anrhydedd neu’r llall, ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth. Dyma hefyd lle y cewch chi wybodaeth am yr holl ddyddiadau cau, a chofiwch bod modd lawrlwytho’r Rhestr Testunau ar gyfer eleni yn rhad ac am ddim o’r wefan erbyn hyn. Felly ewch draw am ragor o wybodaeth.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau ar gyrion tref Dinbych o 2-10 Awst eleni. Am ragor o wybodaeth ewch arlein, www.eisteddfod.org.uk.