Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2013

Gwella gwaith craffu y Cynulliad

Gofynnir i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gefnogi cynlluniau i ailstrwythuro ymhellach y ffordd y mae corff deddfu Cymru’n cyflawni’i fusnes.

Ers iddi gael ei hethol i’r swydd yn 2011, mae Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad wedi rhoi cyfres o newidiadau ar waith i fusnes y Cynulliad, gyda chymorth y Pwyllgor Busnes.

Mae’r newidiadau hynny wedi cynnwys:

  • rhoi mwy o gyfle i arweinyddion y gwrthbleidiau holi’r Prif Weinidog;
  • ailstrwythuro’r system bwyllgorau i’w gwneud yn fwy ymatebol i’r materion sy’n dod gerbron y Cynulliad. Bellach mae pum pwyllgor mwy sydd â swyddogaeth ddeuol o edrych ar bolisïau a deddfwriaeth;
  • caniatau mwy o amser ar gyfer dadleuon y meinciau cefn; a
  • rhoi mwy o gyfle i Aelodau Cynulliad y meinciau cefn gyflwyno deddfwriaeth.

 Mae’r Llywydd bellach wedi cael cytundeb y Pwyllgor Busnes i fyrhau’r cyfnod rhybudd ar gyfer cwestiynau i’r Prif Weinidog a’r Gweinidogion.

Y nod yw cyflwyno natur fwy amserol i fusnes y Cynulliad.

"Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n cynrychioli gobeithion a dyheadau pobl Cymru," meddai Rosemary Butler AC,  y Llywydd sydd hefyd yn cadeirio’r Pwyllgor Busnes.

"Ers cael fy ethol yn Llywydd, rwyf wedi gwneud newidiadau i weithdrefnau’r Cynulliad, gyda chymorth fy nghydweithwyr ar y Pwyllgor Busnes, gyda’r nod o’i wneud yn fwy ymatebol i’r materion sy’n wynebu pobl Cymru.

"Teimlai’r Pwyllgor Busnes y bydd ailstrwythuro’r ffordd y gall Aelodau’r Cynulliad gyflwyno cwestiynau, i’r Prif Weinidog a’i Gabinet, yn caniatáu i’r busnes fod o natur hyd yn oed yn fwy amserol nag ydyw ar hyn o bryd.

"Mae’n newid mecanyddol syml sy’n caniatáu i Aelodau gyflwyno cwestiynau yn nes at y Cyfarfod Llawn lle caiff y cwestiwn ei ofyn."

O dan y system bresennol, caiff cwestiynau llafar i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion eraill y Cabinet, eu cyflwyno ddeng niwrnod ymlaen llaw.

O dan y newidiadau arfaethedig, byddai hyn yn cael ei leihau i dri diwrnod yn achos Cwestiynau’r Prif Weinidog ac i bum diwrnod ar gyfer cwestiynau i Weinidogion eraill. 

Bydd y newidiadau arfaethedig yn mynd gerbron y Cyfarfod Llawn ar 30 Ionawr, pan ofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r newidiadau angenrheidiol i Reolau Sefydlog y Cynulliad.

Llun: Rosemary Butler AC

 

Rhannu |