Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2013

Prentisiaethau yn wythïen bwysig yn ein heconomi

Mewn cyfraniad yn y Cynulliad, amlygodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Alun Ffred Jones, werth prentisiaethau i bobl ifanc a’r busnesau maent yn gefnogi.

Meddai: “Mae prentisiaethau yn wythien bwysig i’n busnesau a’r economi ehangach.

"Heddiw, fe glywsom fod diweithdra wedi codi unwaith eto yng Nghymru. Dyma broblem y mae gwir angen i ni fynd i’r afael â hi  a chredwn y gall prentisiaethau chwarae rhan bwysig mewn gwneud hynny. Dyna pam y sicrhaodd Plaid Cymru fargen gyda Llywodraeth Cymru a allai greu hyd at 10,000 o brentisiaethau newydd yng Nghymru.

“Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod y fargen hon yn creu digon o’r math iawn o brentisiaethau. Rhaid i ni godi proffil prentisiaethau a’u gwneud yn ddewis hyfyw i bobl ifanc o bob gallu. Mae arbenigwyr yn y maes hefyd yn pwysleisio fod cwmnïau bach yn cael cymhellion i gymryd pobl ymlaen fel prentisiaid. Maent yn nodi hefyd ein bod yn rhy aml yn canoli ar yr oedran 16-24, ac nad oes digon yn cael ei wneud i gefnogi gweithwyr o oedrannau eraill.

“Mae mynd i’r afael â diweithdra a chryfhau’r economi yw blaenoriaeth Plaid Cymru, a rhaid iddo fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rhaid i ni sicrhau fod gennym y math iawn o hyfforddiant i roi i fusnesau a gweithwyr Cymru y sgiliau mae arnynt eu hangen i gystadlu ym marchnad y byd, a bydd Plaid Cymru yn parhau i bledio achos hyn yn y Cynulliad.”

 

Rhannu |