Mwy o Newyddion
National Theatr Wales yn bwrw gwreiddiau
Bydd trydydd tymor National Theatre Wales yn cynnwys pedwar cynhyrchiad newydd gan awduron Cymreig ar y cyd â phedwar cyfnod preswyl - yn Butetown, yng Nghaerdydd, yn Siapan; ar Ynys Môn ac yn Nhreorci – a dau gynhyrchiad ar raddfa fawr – sef gig deithiol yng nghwmni Neon Neon, band Gruff Rhys a Boom Bip, ac addasiad o’r llyfr plant Fairy Tales gan Terry Jones i’w llwyfannu yng Nghastell Caerdydd.
Bydd pob cyfnod preswyl yn cynnwys cynhyrchiad newydd a grëwyd gan rai o awduron a pherfformwyr gorau’r wlad…
-
Butetown, Caerdydd Mawrth 2013
De Gabay, archwiliad penodol am un dydd o ardal Butetown Caerdydd yn canolbwyntio ar fywydau y beirdd ifanc o Somalia sy’n byw yno a’r cenedlaethau a ddaeth yno o’u blaenau a gafodd ei ysgrifennu gan grŵp o feirdd ifanc, lleol. Mi fydd cynulleidfaoedd yn symud o lolfaoedd preifat i strydoedd llydan ac i galon gwleidyddol Caerdydd, ac yn cael eu ysgubo o le i le gan berfformiadau agos a mawr, yn cynnwys gorymdaith syfrdanol.
-
Tokyo, Siapan, Ebrill 2013
The Opportunity of Efficiency, ysgrifennwyd gan Alan Harris a chyfarwyddwyd gan John E McGrath. Stori am fywydau bychain wedi’u dal mewn brwydr bŵer fyd-eang, a berfformir yn Siapanaeg yn y New National Theatre, Tokyo – hon fydd cynhyrchiad rhynglwadol cyntaf erioed NTW, a’I gyd-cynhyrchiad cyntaf gyda chwmni theatr cenedlaethol arall.
-
Ynys Môn, Gogledd Cymru, Mehefin 2013
Things I Forgot I Remembered, cyd-gynhrychiad â Hoipolloi. Bydd y sioe hon yn dod â mab enwocaf Ynys Môn, Hugh Hughes, yn ôl i’r ynys er mwyn ailymuno â’r teulu adawodd ar ôl. Mi fydd troeon clywedol o gwmpas yr ynys yn rhoi cipolwg pellach i’r gynulleidfa o fywyd a hanes un o’i meibion mwyaf diddorol.
-
Treorci, de Cymru, Hydref 2013
Tonypandemonium, gan Rachel Trezise. Drama ddidrugaredd, ddoniol a hunangofiannol am ferch ifanc a’i mam alcoholig, wedi’i gosod yng nghymoedd De Cymru, sef cartref brodorol Trezise, a berfformir yn Theatr y Parc a’r Dâr, yn rhan o’r dathliadau canmlwyddiant.
Yn ogystal â’r cynyrchiadau uchod, bydd y pedwar cyfnod preswyl hefyd yn cynnwys dros fis o gydweithio gydag artistiaid lleol o bob disgyblaeth; rheini sy’n llawn addewid, ar ganol eu gyrfa a thu hwnt, trwy gyfrwng cynllun WalesLab y cwmni. Mae rhaglen Cynulliad NTW hefyd yn bwrw gwreiddiau yn y pedwar lleoliad. Bydd National Theatre Wales yn gweithio ar y cyd â’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymraeg sy’n cefnogi ac yn cynorthwyo datblygiad y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, i gyflwyno bandiau newydd.
Bydd dau gynhyrchiad ychwanegol, ar raddfa fawr yn cael eu cynhyrchu yn 2013….
-
Praxis Makes Perfect, Mai 2013 yng Nghaerdydd ac ar daith
Gig roc deithiol gan Neon Neon (sef grŵp o gerddorion a arweinir gan Gruff Rhys o’r Super Furry Animals a’r artist Boom Bip), yr awdur yw Tim Price a’r cyfarwyddwr yw Wils Wilson ac mae’n seiliedig ar fywyd anhygoel y cyhoeddwr a’r ymgyrchydd gwleidyddol o’r Eidal Giangiacomo Feltrinelli.
-
Silly Kings, Rhagfyr 2013/Ionawr 2014 yng Nghastell Caerdydd
Bydd Fairy Tales gan y cyn Monty Python Terry Jones – sy’n ffefryn gan blant ac oedolion – yn dod yn fyw yng nghastell dramatig y brifddinas dros gyfnod y Nadolig 2013.
Heddiw mae’r cwmni hefyd yn lansio ei wefan ar ei newydd wedd sef nationaltheatrewales.org sy’n cynnwys llif cynnwys byw, aml lwyfan, gwell hygyrchedd, ac adran Newyddion agored sy’n cynnig cyfryngau sain y gellir eu lawrlwytho, fideos, delweddau a datganiadau i’r wasg yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr cyfryngau proffesiynol a chymdeithasol*.
Bydd cynyrchiadau ‘annisgwyl’ ychwanegol yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig John McGrath: “Mae pawb yn National Theatre Wales yn gyffrous iawn wrth lansio ein trydedd flwyddyn o waith. Mae ein prosiectau’n amrywio o’n perfformiad cyntaf yn Tokyo i’n cyfnodau preswyl yn Ynys Môn a Threorci i’n cyfnod cyffrous yng Nghastell Caerdydd dros y Nadolig, rydym wirioneddol yn ymdrechu’n galed ac yn teithio’n bellach nag erioed o’r blaen. Gydag artistiaid yn amrywio o Gruff Rhys i Terry Jones i Rachel Trezise yn ymuno â ni yn ystod y flwyddyn, gallwn unwaith eto addo’r talent gorau posibl o Gymru i gynulleidfaoedd Cymreig a rhyngwladol sy’n tyfu o hyd”.
Dywedodd Phil George, Cadeirydd Bwrdd National Theatre Wales: “Mae hwn yn drydydd tymor cyffrous iawn i National Theatre Wales. Mae’n dod â’r cwmni i ganol cymunedau Cymru, o Sir Fôn i Butetown a Threorci, ac mae’n rhoi proffil rhyngwladol i’n gwaith yn Siapan. Ac rwyf wrth fy modd y byddwn yn cynnig cynyrchiadau beiddgar ar raddfa fawr gyda Praxis Makes Perfect a Silly Kings.”
Llun: Phil George