Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2013

Hwb o £680,000 ar gyfer Mudiadau Ieuenctid Gwirfoddol

Mae Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, wedi cyhoeddi bod Mudiadau Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol yng Nghymru i dderbyn bron i £680,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Caiff setliadau grant blynyddol rhwng £35,000 a £116,000 eu dosbarthu i naw mudiad er mwyn cynyddu’r cyfleoedd dysgu anffurfiol i bobl ifanc 11–25 oed a gwella’u hansawdd. 

Dywedodd Jeff Cuthbert:  “Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan mewn profiadau a gweithgareddau sy’n eu galluogi i feithrin a datblygu sgiliau newydd mewn amgylchedd cefnogol.

“Dyma pam rydyn ni’n ymrwymo £680,000 i Fudiadau Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol sydd, fel y gwyddom, yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.

“Yn aml, mae’r sefydliadau hyn yn targedu pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio, gan roi cymorth a hyfforddiant amhrisiadwy iddyn nhw a’u paratoi ar gyfer y dyfodol.”

Dyma’r sefydliadau sy’n derbyn y cyllid:

 Clybiau Pobl Ifanc      £66,000
Gwobr Dug Caeredin      £56,215
Girlguiding     £63,045
Gwerin y Coed   £35,000
Urdd Sant Ioan  £70,000
UNA Exchange    £55,000
Urdd Gobaith Cymru      £99,619
Clybiau Ffermwyr Ifanc  £116,000       
YMCA Cymru      £110,140       

Llun: Jeff Cuthbert

Rhannu |