Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2013

Diogelu'r Cyhoedd yn Rhydaman

MAE'R Aelod o Fwrdd Gweithredol Sir Gaerfyrddin dros Ddiogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd wedi canmol swyddogion y cyngor am eu gwaith llwyddiannus yn ardal Rhydaman.

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones fod yr ystod eang o waith gorfodi a wnaed er lles y trigolion wedi gwneud argraff arno, ynghyd â'r ffaith fod swyddogion yn aml yn gallu datrys problemau heb orfod dwyn achos llys.

Hefyd mae'r gwaith wedi cynnwys ymarferion prawf-brynu i atal gwerthu alcohol i blant dan oedran.

Bu i swyddogion y Gwasanaeth Safonau Masnach gael pobl ifanc dan oedran i geisio prynu alcohol ond ni fu dim gwerthiannau.

Cynhaliwyd Ymgyngoriadau Cynllunio er mwyn sicrhau nad oedd y gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â datblygu yn cael effaith negyddol ar fywydau trigolion cyfagos. Mewn perthynas â'r economi hwyr y nos, mae nifer o fentrau gorfodi wedi cael eu cynnal yn ystod oriau'r nos ac yn oriau mân y bore, er mwyn sicrhau bod safleoedd trwyddedig yn cydymffurfio â'u trwydded safle ac yn cadw at y gyfraith.

Mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid wedi gwneud gwaith amrywiol yn ardal Rhydaman gan gynnwys erlyniad ynghylch amodau lles gwael ar gyfer anifeiliaid fferm yn Llandyfân a wnaeth arwain at ddau ble euog, dau achos yn cael eu paratoi ynghylch lles anifeiliaid fferm, ymchwiliad i greulondeb tuag at anifeiliaid fferm, ymchwiliadau i honiadau o waredu cyrff anifeiliaid meirw mewn ffordd amhriodol, ac ymchwiliad i honiadau o weithgareddau anghyfreithlon mewn lloches anifeiliaid.

Mae Adain Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wedi ymyrryd mewn tua 60 o gŵynion ynghylch sŵn ers Ebrill 1af y llynedd. Drwy ymyrryd yn yr achosion hyn yn gynnar mae wedi bod yn bosibl osgoi'r angen am gymryd camau ffurfiol ac unioni'r cwynion mewn ysbryd da. Roedd y problemau'n amrywio o brosesau diwydiannol i faterion domestig.

Mae monitro ansawdd yr aer yn dal i ddigwydd yn ardal Rhydaman, ac mae'r Adain yn parhau i gynnal a diogelu aer o ansawdd da i drigolion y sir a'r bobl sy'n ymweld â hi. Hefyd cyfrennir at hyn drwy reoli'n effeithiol y naw proses ddiwydiannol y mae angen Hawlen ar eu cyfer yn yr ardal hon, o achos eu potensial o ran cynhyrchu nwyon a ryddheir i'r aer.

Nid oes dim materion dybryd yn ardal Rhydaman o ran ansawdd aer a dyletswydd y swyddogion yw diogelu'r aer o ansawdd da.

Mae'r Tîm Iechyd y Cyhoedd wedi bod yn gysylltiedig â mwy nag 80 o achosion yn ardal Rhydaman. Mae'r swyddogion wedi ymdrin â'r rhan fwyaf o'r cwynion yn anffurfiol, ond maent wedi cyflwyno 11 hysbysiad cyfreithiol yn ystod eu hymchwiliadau.

Hefyd mae'r swyddogion wedi cynnal ymweliadau â'r ardal yn ystod y nos yn dilyn pryderon ynghylch llygod mawr yng nghanol y dref, ond nid oes dim tystiolaeth i awgrymu bod unrhyw broblemau.

Yn ogystal mae'r gwasanaeth wardeiniaid cŵn ar batrôl yn Rhydaman a'r wardiau cyfagos, ac mae'r dref ar y rhestr o lefydd lle cynhelir digwyddiadau hyrwyddo microsglodynnu cŵn yn ystod y misoedd nesaf. Mae'r gwasanaeth hwn am ddim i drigolion Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones: “Mae llawer mwy ynghlwm wrth ddyletswyddau gorfodi ein swyddogion nag erlyniadau llwyddiannus, er bod y rheiny'n bwysig o ran ymdrin â phroblemau ac atal pobl eraill rhag mynd yn groes i'r rheolau.

“Atal problemau yn y lle cyntaf neu ymdrin â nhw'n gyflym yw llwyddiant mwyaf ein gwaith, a hynny cyn bod angen cymryd camau gorfodi. Mae'r amrywiaeth eang o waith y mae ein swyddogion yn ei wneud i ddiogelu lles trigolion Rhydaman a'r cyffiniau wedi gwneud argraff ddofn arnaf."

 

Rhannu |