Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2013

Dangos dy gariad a dathlu Diwrnod Santes Dwynwen

Ar Ddiwrnod Santes Dwynwen, mae Plaid Cymru wedi annog cariadon i arddangos eu cariad, a helpu’r economi. Y Santes Dwynwen yw nawddsantes cariadon Cymru, a dethlir ei diwrnod gan gariadon Cymru ar Ionawr 25.

Mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Alun Ffred Jones, wedi tynnu sylw at werth economaidd Dydd Sant Ffolant i economi Cymru, sydd yn cyfateb i £65 miliwn bob blwyddyn. Dywedodd y buasai dathlu Diwrnod Santes Dwynwen yn hybu’r economi ac yn rhoi cefnogaeth i hunaniaeth Gymreig.

Meddai Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Alun Ffred Jones: “Bob blwyddyn, mae Gŵyl Sant Ffolant yn cyfrannu £65 miliwn i economi Cymru, a buasai’n wych petai’r un statws yn cael ei roi i Ddiwrnod Santes Dwynwen. Yng Nghymru, mae gennym ein nawddsantes cariadon ein  hunain, felly beth am annog mwy o bobl i’w dathlu, a thrwy hynny hybu eu hunaniaeth Gymreig.

“Mae Gŵyl Sant Ffolant yn aml yn cael ei weld fel ‘Gŵyl Hallmark’: beth am fod yn wreiddiol, a dathlu Diwrnod Santes Dwynwen?

“Mae gwerthiant blodau, siocled, gemwaith a llefydd mewn bwytai fel arfer yn saethu i fyny ar Ŵyl Ffolant, a gallai ein heconomi bregus yn sicr wneud gyda hwb ym mis Ionawr.

“Felly dangoswch eich bod yn malio heddiw. Nid dim ond am eich cymar, ond am eich hunaniaeth Gymreig, diwylliant Cymru, ac am fusnesau Cymru.”

Llun: Alun Ffred Jones

 

Rhannu |